Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae Aelodaeth QAA i sefydliadau addysg uwch yn y DU a ledled y byd sydd eisiau sicrhau safonau academaidd, dangos rhagoriaeth yn ansawdd eu haddysg, a gwella profiad dysgu'r myfyrwyr.

 

Mae Aelodaeth QAA yn galluogi i arweinwyr uwch, academyddion a thimau ansawdd rannu'r arferion gorau, trafod heriau, datblygu gwybodaeth a sicrhau eu bod yn gwybod am yr holl ddatblygiadau diweddaraf sy'n effeithio ar y sector addysg uwch.

 

Themâu aelodaeth ar gyfer 2025-26

 

Yn 2025-26, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu arweiniad ac adnoddau am y meysydd a ganlyn:

  • Cefnogi dysgu ac addysgu o safon uchel
  • Arloesi dulliau darparu
  • Cynnal ansawdd yn ystod cyfnodau heriol.

Adnewyddu eich aelodaeth

 

Mae'r broses o adnewyddu eich aelodaeth yn syml. Ym mis Mai, byddwch yn derbyn neges e-bost sy'n cynnwys dolen at eich ffurflen adnewyddu – y cwbl y bydd angen i chi ei wneud yw clicio ar y ddolen i gyflwyno eich ffurflen gyflawn erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Presentation at a QAA event

Cysylltu â ni

 

Os hoffech drafod eich Aelodaeth o QAA, mae croeso i chi gysylltu â'n timau penodol:


Beth i'w ddisgwyl gan eich aelodaeth o QAA

Mae Aelodaeth QAA yn fuddsoddiad yn ansawdd a safonau eich sefydliad. Dysgwch ragor am fanteision bod yn aelod o QAA:

 

Codi eich llais yn uwch

 

Mae gennym gydberthnasau agos â sefydliadau, asiantaethau sicrhau ansawdd a chyrff partner yn y DU a ledled y byd, a gyda chyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio, sy'n sicrhau bod aelodau QAA yn cael eu cynrychioli ar lwyfan byd-eang.

Datblygu eich sgiliau a'ch rhwydweithiau

 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i'ch cefnogi i wella gan hefyd barchu eich ymreolaeth a'r amrywiaeth yn y sector. Mae Aelodaeth QAA wedi ei lunio i fod yn gydweithredol ac felly mae'n ffynnu trwy ddatblygu cydberthnasau effeithiol, creu cyfleoedd ystyrlon i rwydweithio ac ymgysylltu â'r sector ehangach, a helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiad ar draws eich sefydliad cyfan.

Ehangu eich gwybodaeth a gwella eich arferion


Gyda bron i 30 o flynyddoedd o arbenigedd fel corff annibynnol a diduedd sy'n arwain y byd ym maes sicrhau ansawdd, mae QAA wedi helpu i sefydlu systemau sicrhau a gwella ansawdd ledled y byd. Gallwn eich cefnogi chi'n hyderus i wneud arferion a phrosesau'n fwy effeithlon ac effeithiol, sicrhau'r effaith orau bosib o ddefnyddio ein pecynnau cymorth, ein canllawiau a'n deunyddiau briffio am bolisi a strategaeth, a hyd yn oed gynnig cymorth un-i-un i chi os oes ei angen.

Ateb eich blaenoriaethau chi

 

Llunnir themâu trosfwaol Aelodaeth QAA i fynd i'r afael yn uniongyrchol â heriau arwyddocaol i'r sector, gan sicrhau eich bod yn aros ar flaen y gad yn y tirlun addysg uwch ac addysg drydyddol sy'n datblygu'n barhaus. Rydym yn ymgysylltu â chi a'ch cydweithwyr er mwyn deall eich sefyllfa unigryw ac i'ch cefnogi i sicrhau newid ystyrlon.


Y mathau o Aelodaeth QAA

Ymysg ein haelodau cyfredol, mae amrywiaeth o ddarparwyr o bob math, maint a maes arbenigrwydd. Gwelwch ein cyfeiriadur o aelodau i weld pa sefydliadau sy'n aelodau o QAA ar hyn o bryd.

 

Yn y Deyrnas Unedig

Mewn rhannau eraill o'r byd



Drwy Aelodaeth QAA, mae pobl ymhob rhan o'r Brifysgol yn cael gafael ar ffynhonnell hanfodol o wybodaeth a chefnogaeth sy'n tanategu ein dull o sicrhau a gwella ansawdd. Mae ein hadrannau'n gwerthfawrogi'r wybodaeth a'r profiadau o'r sector a gofnodir yn y Datganiadau Meincnodi Pwnc ac yn gwneud defnydd estynedig ohonynt i werthuso a mireinio cynllun ein portffolios.

Yr Athro Tim Quine, Is-lywydd a Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), Prifysgol Caerwysg