
Strategaeth QAA 2023-27
Dyddiad cyhoeddi: 05 Ebr 2023
Awdur: | QAA |
---|---|
Fformat: | |
Maint y ffeil: | 4.08 MB |
Strategaeth 2023-27
Rhagoriaeth, annibyniaeth ac ymddiriedaeth mewn sicrhaua gwella ansawdd
Pwrpas QAA
Sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr yn profi addysg o'r ansawdd uchaf posibl.
Rôl ac effaith QAA
Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd.
Rydym yn cynorthwyo prifysgolion a cholegau i weithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio i ddarparu tystiolaeth a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.
Rydym yn gweithio tuag at ddealltwriaeth well ar ran y cyhoedd - gartref ac yn rhyngwladol - o sut y dangosir ansawdd rhagorol mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae darparwyr hunan-reolus yn sicrhau darpariaeth yr ansawdd honno ac yn mynd i›r afael â gwendidau.
Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal â diogelu a hyrwyddo enw da addysg uwch.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar y gred bod profiad academaidd o ansawdd uchel i ddysgwyr yn beth da ynddo’i hun, yn hybu dealltwriaeth a gwybodaeth ddynol, ac yn cynorthwyo cynnydd economaidd a chymdeithasol ehangach.
Ein pedwar maes ffocws
Safonau
Gwarchod cyfeirbwyntiau’r sector a thargedu canllawiau i sicrhau safonau academaidd a gwerth cymwysterau.
Sicrwydd a gwelliant
Cyflwyno ymagwedd arloesol ac uchel ei pharch at ansawdd, gan alluogi sefydliadau a dysgwyr i weithio ar y cyd i werthuso eu harfer a pharhau i wella eu profiad dysgu.
Rhyngwladol
Ehangu ein gweithgarwch rhyngwladol, gan fanteisio ar enw da rhagorol QAA ac AU y DU yn fyd-eang mewn meysydd newydd er budd addysg drydyddol y DU.
Arweinyddiaeth
Dylanwadu ar lunwyr polisi, prifysgolion a cholegau, myfyrwyr a dysgwyr a chynnig cymorth iddynt drwy fewnwelediad arbenigol wedi'i gyfleu'n glir.
Mae gwaith QAA yn hanfodol
Mae prifysgolion a cholegau ar eu cryfaf pan fydd ganddynt sicrwydd annibynnol, cydweithredol, cymesur ac arbenigol, ynghyd â gwelliant ansawdd.
Mae QAA yn unigryw
Beth sydd wedi newid yn ein strategaeth?
1. Mae ein rôl yn y DU yn datblygu.
Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn gweithio ar y cyd â’r sector i ddiwallu anghenion pob gwlad.
Yn Lloegr, mae ein rhaglen aelodaeth hynod lwyddiannus yn darparu ffynhonnell gynhwysfawr o adnoddau i arweinwyr strategol, arbenigwyr ym maes ansawdd a myfyrwyr a dysgwyr fel ei gilydd.
Ar ôl penderfynu camu i ffwrdd o rôl ar wahân yn darparu adroddiadau ar gyfer rheoleiddiwr Lloegr, byddwn yn gallu ychwanegu at yr adnoddau hyn gyda gwasanaethau newydd, yn seiliedig ar ein profiad unigryw o helpu sefydliadau i fodloni a chydbwyso gofynion rheoleiddwyr a PSRBs.
Mae hyn, ynghyd â’n harbenigedd ym maes ansawdd a safonau, yn ein rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu prifysgolion a cholegau i lywio a bodloni’r gofynion hynny, tra’n cyflawni eu huchelgeisiau eu hunain ar gyfer gwella ansawdd – ac i ddangos tystiolaeth o hyn mewn ffyrdd arloesol sy’n mynd y tu hwnt i weithgarwch sicrwydd traddodiadol.
2. Mae gorwelion QAA yn ehangu y tu hwnt i addysg uwch i wasanaethu’r sector trydyddol ehangach.
Ym mhob gwlad yn y DU, mae addysg uwch ac addysg bellach yn dod at ei gilydd fwyfwy i gefnogi dysgu gydol oes, ac mewn ymateb i anghenion economaidd lleol a rhanbarthol. Bydd hyn yn dod â ffocws newydd ar sgiliau, cymwysterau technegol a galwedigaethol, a gwell profiad trosglwyddo i ddysgwyr.
Mae QAA wedi sefydlu arbenigedd mewn credydau a micro-gymwysterau, ac wedi gweithio ers tro gyda cholegau addysg bellach sy›n darparu addysg uwch, ond rydym yn mynd ymhellach yn awr drwy baratoi ar gyfer tirwedd addysg newydd.
Ar draws y sector trydyddol cyfan, bydd QAA yn gwasanaethu anghenion cyrff cyllido a rheoleiddio, prifysgolion a cholegau, yn ogystal â myfyrwyr a dysgwyr, ble bynnag y mae angen arbenigedd corff ansawdd annibynnol.
3. Mae ein gwaith rhyngwladol yn tyfu ac yn esblygu,
Gall llywodraethau a phartneriaid rhyngwladol gael amgylchedd ansawdd y DU yn gymhleth i’w lywio, yn enwedig lle mae polisi’n amrywio. Mae enw da a safle QAA fel asiantaeth ansawdd o safon fyd-eang yn ein galluogi i ddarparu cyngor, mewnwelediad a sicrwydd ynghylch cryfderau parhaus ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch y DU.
Rydym yn defnyddio ein harbenigedd a gydnabyddir yn fyd-eang fel sail i ffurfio a pharhad partneriaethau rhyngwladol, ac i gynorthwyo sector y DU wrth iddo groesawu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol ac ymestyn ei gyrhaeddiad drwy addysg drawswladol. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein harlwy yn y meysydd hyn.
Ar yr un pryd, mae proffil rhyngwladol QAA ei hun yn parhau i dyfu, ac mewn nifer cynyddol o farchnadoedd, mae galw mawr am ein Hadolygiad Ansawdd Rhyngwladol ac Achrediad Rhaglenni Rhyngwladol. Byddwn yn ehangu ein darpariaeth o’r gwasanaethau hyn mewn ffordd sy’n llywio ein gwaith yn y DU wrth i ni ddysgu o arfer gorau rhyngwladol, ac mae hynny’n ein helpu i gynnig cymorth mwy cost-effeithiol i sector y DU.
Lawrlwythwch gopi o'n Strategaeth
Dyddiad cyhoeddi: 05 Ebr 2023
Gwybodaeth bellach
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch Strategaeth QAA ar gyfer 2023-27, gan gynnwys atebion i gwestiynau ynglŷn â’n rôl esblygol yn y sector addysg uwch a diagram sy’n manylu ar ein lle ymysg asiantaethau’r sector yn y DU.