Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Yr Adolygiad Gwella Ansawdd (Adolygiad GA) yw'r dull yr ydym yn ei ddefnyddio i adolygu darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn rhan o'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru. Mae'n ddull nodedig o adolygu sefydliadau, a ddatblygwyd i ymdrin â chyd-destun arbennig y sector addysg uwch yng Nghymru.


Nod Adolygiad GA yw rhoi sicrwydd o ansawdd a chefnogi gwelliant mewn ansawdd, gan dawelu meddwl y myfyrwyr, y cyrff llywodraethu a'r cyhoedd ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae Adolygiad GA yn asesu darparwyr yn erbyn gofynion sylfaenol y cytunwyd arnynt a'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG).

 

Mae llawlyfr diwygiedig wedi'i gyhoeddi yn Awst 2023 yn dilyn proses o ymgynghori helaeth gyda'r sector. Arweiniodd y broses hon at ymgynghoriad ar lawlyfr drafft ym Mai a Mehefin 2023. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a sut mae QAA wedi ystyried y rhain wrth lunio'r Llawlyfr terfynol wedi'i gyhoeddi.

Y Llawlyfr gyda Chanllawiau

Canlyniadau'r ymgynghoriad ar y fersiwn drafft o'r Llawlyfr ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd (Cymru)

Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2023

Rhestr wirio o gyfrifoldebau ar gyfer darparwyr sy'n darparu cyrsiau gradd a ddyfernir gan Pearson Education Ltd

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tach 2020

Sail Wybodaeth Adolygiadau yng Nghymru

Mae’r sail wybodaeth hon wedi’i datblygu o ddeilliannau’r Adolygiad Gwella Ansawdd a’r Adolygiad Ansawdd Porth - Cymru rhwng 2017 a’r presennol. Mae’r sail wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y dulliau adolygu gan gynnwys meysydd beirniadaeth, categoreiddio canmoliaeth, cadarnhau, meysydd ar gyfer datblygu a gwelliannau penodol, a newidiadau yn ystod cylchred. Gall defnyddwyr ddidoli’r canlyniadau fesul themâu o Gôd Ansawdd y DU yn ogystal â chategorïau ychwanegol.

Darpariaeth Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac i roi ystyriaeth i ofynion a disgwyliadau'r Safonau Iaith Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch Atodiad 3 y Llawlyfr.