Rydym yn gweithio gydag aelodau QAA yng Ngogledd Iwerddon mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n benodol berthnasol i Ogledd Iwerddon, drwy weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cyd-ymrwymiad i wella a chyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr. Mae rhagor o wybodaeth am Aelodaeth yng Ngogledd Iwerddon ar gael yn adran 'Aelodaeth' y wefan hon.
Ar y cyd â'n partneriaid, rydym yn ceisio hyrwyddo'r materion sydd o ddiddordeb i'r sector addysg uwch yn ein gwaith gyda llywodraethau, cyrff cyllido a phartneriaid, gan hybu cydweithio a rhannu arferion da rhwng darparwyr.
Rydym yn gwrando'n ofalus ar ein haelodau er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau, a chyfleoedd i ddysgu o brofiad rhwydwaith ehangach QAA a chymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfleoedd ar draws y DU.
Byddwn yn parhau i gefnogi myfyrwyr i gymryd rhan weithredol fel partneriaid yn ein gwaith ac mewn gweithgareddau gwella ansawdd yng Ngogledd Iwerddon, gan geisio ffyrdd newydd o ddwysáu eu cyfranogaeth a chryfhau llais y myfyrwyr.
Mae cyfle i sefydliadau unigol gomisiynu QAA i wneud adolygiad ansawdd. Dan arweiniad cymheiriaid, mae'r adolygiadau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliant ac maent yn ymatebol i gyd-destun pob sefydliad, yn ogystal â chyd-destun polisïau Gogledd Iwerddon.
Cynhadledd QAA Gogledd Iwerddon 2022
Daeth y gynhadledd hon, dan y teitl 'The Future of Quality Enhancement', â'r sector addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon at ei gilydd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r pwyntiau cyfeirio allweddol ar gyfer sicrhau gwelliant mewn ansawdd yng Nghymru a'r Alban, lle mae dulliau sicrhau ansawdd sy'n canolbwyntio ar welliant ar waith ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd y gynhadledd yn dilyn cyflwyno cynnig QAA i Adran yr Economi i ddatblygu'r dull nesaf o wneud adolygiadau sicrwydd ansawdd allanol i Ogledd Iwerddon.
Mae'r ystod lawn o ddeunyddiau a gafwyd o'r gynhadledd, sy'n cynnwys cyflwyniadau ac adnoddau a sleidiau cyflwyniadau gweithdai, ar gael ar ein gwefan neilltuedig 'Adnoddau i'n Haelodau'.