Yr Athro Nic Beech
Yr Athro Nic Beech yw Is-Ganghellor Prifysgol Middlesex, a chyn hynny roedd yn Is-Bennaeth ym Mhrifysgol St Andrews a Phrofost Prifysgol Dundee.
Nic yw Llywydd Academi Rheolaeth Prydain a Thrysorydd Mygedol Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaeth, amrywiaeth, arwain newidiadau, a dysgu, ac mae wedi gweithio'n eang â'r diwydiant, yn benodol y diwydiannau creadigol ac iechyd. Mae wyth llyfr Nic yn cynnwys: Managing Creativity (Caergrawnt, 2010), Organising Music (Caergrawnt, 2015), Managing Change (Caergrawnt, 2017) ac Impact in Business and Management Research (Routledge, 2021).
Mae Nic wedi bod yn Athro Gwadd yn y DU, yr Iseldiroedd ac Awstralia, ac mae'n Gymrawd neu Gymrodor Academi Rheolaeth Prydain, Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac Academi Rheolaeth Awstralia a Seland Newydd.
Cysylltiadau cyfredol â sefydliadau addysg uwch (ac eithrio gwaith cyflogedig):
Dim
Cysylltiadau â chyrff proffesiynol a chyrff pwnc-benodol:
Aelod o fwrdd London Higher, Cadeirydd AccessHE
Cysylltiadau â chyrff eraill:
Academi Rheolaeth Prydain, Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau