Ymaelodi â QAA
Mae Aelodaeth o QAA yn sicrhau gweledigaeth, arbenigedd ac arweiniad i'r staff a'r myfyrwyr.
Mae Aelodaeth QAA i sefydliadau addysg uwch yn y DU a ledled y byd sydd eisiau sicrhau safonau academaidd, dangos rhagoriaeth yn ansawdd eu haddysg, a gwella profiad dysgu'r myfyrwyr.
Mae Aelodaeth o QAA yn sicrhau gweledigaeth, arbenigedd ac arweiniad i'r staff a'r myfyrwyr.
Mae'r aelodaeth yn rhychwantu amrywiaeth o themâu a phynciau, wedi eu tanategu gan ddigwyddiadau, cyfleoedd rhwydweithio a datblygiad.
Ymysg ein haelodau, mae amrywiaeth o ddarparwyr o bob math, maint a chenhadaeth.
Mae modd gweld y canlyniadau sy'n ymwneud â themâu aelodaeth eleni yn ein hadran 'Adnoddau i'r Sector'; ac mae unrhyw ddigwyddiadau a chyfleodd rhwydweithio a hyfforddi sydd ar y gweill ar gael yma.
Mae ein calendr i'n haelodau'n darparu amserlen o'r digwyddiadau allweddol a'r adnoddau cysylltiedig sy'n rhan o'n rhaglen aelodaeth. Mae'r gweithgareddau hyn yn cefnogi darparu themâu a phynciau ein haelodaeth a'r gwaith ehangach a wnawn ar y cyd â'n haelodau i sicrhau safonau academaidd, gwella profiad dysgu'r myfyrwyr a diogelu enw da addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Maw 2025
Rhwydwaith Polisi ac Arferion 'Addysg Uwch mewn Colegau'
Mae ein Rhwydwaith Polisi ac Arferion 'Addysg Uwch mewn Colegau' yn dod ag aelodau 'Addysg Uwch mewn Colegau' o QAA at ei gilydd o bob rhan o'r DU, gan ddarparu llwyfan lle
mae modd gweld y datblygiadau allweddol diweddaraf ym maes polisi addysg uwch, trafod materion yn ymwneud ag ansawdd a rhannu arferion. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Trafodaethau gydag Arweinwyr Ansawdd
Mae ein cyfres 'Trafodaethau gydag Arweinwyr Ansawdd' yn rhoi diweddariadau am y meysydd polisi a strategaeth, yn ogystal ag archwilio meysydd o flaenoriaeth a darparu cyfle i rwydweithio.
Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Rhwydwaith Partneriaethau Rhyngwladol, Polisi ac Arferion
Mae ein Rhwydwaith Partneriaethau Rhyngwladol, Polisi ac Arferion yn dod â chydweithwyr at ei gilydd o bob rhan o'r DU i rannu'r arferion gorau a thrafod y datblygiadau
diweddaraf ym maes polisi a'r heriau gweithredol diweddaraf sy'n effeithio ar bartneriaethau rhyngwladol. Mae'r rhwydwaith yn agored i aelodau 'International Insights', ac mae wedi ei anelu at staff sy'n gyfrifol am weithredu neu reoli partneriaethau
rhyngwladol. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau
i'n Haelodau'.
Rhwydwaith o Arweinwyr Rhaglenni
Mae'r Rhwydwaith hwn yn cynnig cymuned ymarfer i arweinwyr rhaglenni addysg uwch. Cafodd ei greu mewn partneriaeth â Phrifysgol Warwick. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Rhwydwaith o Ddirprwy Is-Gangellorion Addysg Ryngwladol
Crëwyd ein Rhwydwaith o Ddirprwy Is-Gangellorion Addysg Ryngwladol i roi cyfle i arweinwyr uwch gydweithio i archwilio'r heriau cyfredol a'r blaenoriaethau allweddol ym
maes addysg uwch ryngwladol. Mae'r digwyddiadau hyn yn dod â chydweithwyr at ei gilydd sy'n gweithio fel Dirprwy Is-Gangellorion neu sydd mewn swydd gyfatebol ac sy'n gyfrifol am ddarpariaeth ryngwladol, ac maent yn darparu llwyfan i glywed
y datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid QAA mewn gwledydd sydd o ddiddordeb i sector addysg uwch y DU. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Rhwydwaith o Ddirprwy Is-Gangellorion Addysg
Mae ein Rhwydwaith o Ddirprwy Is-Gangellorion Addysg i Ddirprwyon Is-Gangellorion neu bobl sydd mewn swydd gyfatebol. Mae'r sesiynau hyn yn darparu llwyfan i ymgysylltu â chymheiriaid ynghylch datblygiadau allweddol ym maes polisi addysg uwch sydd â goblygiadau ar gyfer ansawdd a safonau academaidd. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Rhwydwaith o Ddarparwyr Arbenigol ac Annibynnol
Mae'r Rhwydwaith hwn yn dod â darparwyr arbenigol ac annibynnol at ei gilydd o bob rhan o'r DU i drafod arferion arloesol, rhannu syniadau a chlywed y diweddaraf am y datblygiadau ym maes polisi addysg uwch. Mae wedi ei lunio i arweinwyr uwch sy'n gyfrifol am sicrhau a gwella ansawdd, a dysgu ac addysgu, ac i gydweithwyr sy'n gweithio'n agos ag arweinwyr uwch i gefnogi'r gwaith o fonitro a gwerthuso darpariaeth addysg uwch. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Rhwydwaith Ymgysylltiad Myfyrwyr
Mae ein Rhwydwaith Ymgysylltiad Myfyrwyr yn gyfle i gynrychiolwyr y myfyrwyr a'r staff sy'n eu cefnogi dderbyn diweddariadau gan QAA a rhannu eu barn eu hunain am heriau a phynciau cyfredol. Mae adnoddau o ddigwyddiadau rhwydweithio blaenorol ar gael ar ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Cyfleoedd datblygiad a rhaglenni hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol, yn cynnwys:
Camu i Ansawdd
Mae'r gweithdy rhyngweithiol bywiog hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol ansawdd a safonau academaidd yn y DU: beth ydynt, pam maen nhw'n bwysig, rhai o'r prif brosesau mewnol a'r cyrff perthnasol yn y sector. Rydym hefyd yn dangos y ffordd at wybodaeth ac adnoddau defnyddiol.
Cyflwyniad i Ansawdd
Mae'r cwrs yn ymwneud â'r pwyntiau cyfeirio allweddol ar gyfer ansawdd a safonau fel Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU, yn ogystal â gwahanol ffyrdd y gall darparwr reoli'r gwaith o sicrhau a gwella ansawdd.
Ansawdd ar Waith
Mae'r cwrs yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol am ddulliau rheoli ansawdd a phwyntiau cyfeirio, gan fyfyrio ar heriau a dadleuon sy'n ymwneud â sicrhau a gwella ansawdd.
Mae ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau' ar gael i bob aelod o staff a phob myfyriwr y sefydliadau sy'n aelodau o QAA. Mae cyfoeth o adnoddau ar gael ar y wefan sy'n cynnwys deunyddiau briffio, astudiaethau achos, cyhoeddiadau 'Country Reports', canlyniadau gwaith ymchwil, a deunyddiau sy'n ymwneud â'n digwyddiadau.
Cliciwch ar y botwm perthnasol isod i gofrestru neu fewngofnodi ar gyfer y wefan 'Adnoddau i'n Haelodau'.