Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae Aelodaeth QAA yn creu lle diogel i dimau ansawdd, academyddion ac arweinwyr strategol rannu arferion, trafod heriau, datblygu gwybodaeth a dysgu am y meddwl a'r arferion proffesiynol diweddaraf ym maes sicrhau a gwella ansawdd.

Group discussion at a QAA event

""

Codi eich llais yn uwch

Hyrwyddo ansawdd a safonau

 

Rydym yn cymryd rhan weithredol yng ngwaith llywodraethau, asiantaethau'r sector a chyrff dylanwadol eraill i siapio polisïau ac arferion. Ein nod yw sicrhau bod materion ansawdd yn elfen flaenllaw mewn mentrau newydd a rhai sy'n datblygu. Trwy ymuno â ni, rydych yn dod yn rhan o lais ar y cyd sy'n dylanwadu ar benderfyniadau allweddol ac yn gwthio'r agenda ansawdd yn ei blaen.

 

Arwain meddylfryd a chadw llygad ar y gorwel

 

Arhoswch ar flaen y gad gyda'n gwybodaeth amserol ynglŷn â thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a datblygiadau ym maes polisi sy'n ymwneud ag ansawdd a safonau. Mae ein dadansoddiad arbenigol a'n hagwedd flaengar yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi i lywio drwy'r tirlun addysg uwch sy'n newid yn barhaus. Rydym yn cynnig mynediad unigryw i adroddiadau, gweminarau a digwyddiadau sy'n sicrhau eich bod yn wybodus ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

 

Cydnabyddiaeth fyd-eang

 

Mae ein gweithgareddau rhyngwladol yn agor drysau i gyfleoedd, cydweithrediadau a phartneriaethau newydd sy'n gwella proffil eich sefydliad a'ch dylanwad drwy'r byd i gyd. Rydym yn manteisio ar enw da rhagorol QAA ac addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd i ehangu i feysydd newydd, er budd addysg drydyddol y DU.

 

Eich llais a'ch arbenigedd chi

 

Cymryd rhan mewn grwpiau cynghori a chyfrannu at ddatblygu pwyntiau cyfeirio a meincnodau'r sector. Sicrhau bod y safonau hyn yn parhau'n ystyrlon ac yn hygyrch i chi a'ch cydweithwyr. Mae eich cyfraniad yn helpu i siapio dyfodol y sector addysg uwch, gan sicrhau bod y sector yn hysbysu ein gwaith a bod yr hyn a wnawn yn ateb anghenion y sefydliadau a'u myfyrwyr fel ei gilydd. Rydym yn darparu llwyfan lle gallwch godi eich llais a lle bydd eich arbenigedd yn cael ei gydnabod.

 

Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU | Datganiadau Meincnodi Pwnc |  Polisi ac arweinyddiaeth | Ansawdd a safonau |
Ymgysylltiad rhyngwladol a threfniadau addysg drawswladol



""

Datblygu eich sgiliau a'ch rhwydweithiau

Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol

 

Meithrin eich gallu ac ehangu eich meysydd o arbenigedd gyda'n rhaglenni hyfforddiant cynhwysfawr. Mae ein sesiynau hyfforddi wedi eu teilwra i ateb anghenion penodol ein haelodau. P'un a ydych chi'n gobeithio gwella'r sgiliau sydd gennych neu ddatblygu sgiliau newydd, nod ein rhaglenni yw eich helpu i gyflawni eich amcanion proffesiynol chi.

 

Digwyddiadau sy'n ysbrydoli

 

Cymryd rhan mewn gweithdai, cynadleddau a gweminarau sy'n ymwneud â'r themâu a'r pynciau sydd fwyaf perthnasol i rôl eich swydd ac i'ch sefydliad. Mae ein digwyddiadau wedi eu llunio i roi'r wybodaeth a'r sgiliau yr ydych eu hangen er mwyn llwyddo. O weithdai rhyngweithiol sy'n cynnig technegau a sgiliau ymarferol i gynadleddau sy'n ysgogi'r meddwl ac sy'n archwilio'r ymchwil a'r arloesi diweddaraf, mae ein digwyddiadau'n darparu profiadau dysgu gwerthfawr. Mae ein gweminarau a'n digwyddiadau ar-lein yn cynnig yr hyblygrwydd i chi allu dysgu o unrhyw le, gan olygu ei bod hi'n haws i chi dderbyn gwybodaeth a chael eich ysbrydoli lle bynnag yr ydych chi.

 

Cyfleoedd rhwydweithio

 

Cysylltu â chymheiriaid, cyfnewid syniadau, rhannu gwybodaeth, a dysgu o brofiadau pobl eraill. Trwy Aelodaeth QAA, cewch gyfle i drafod materion pwysig a chydweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes addysg uwch sydd o'r un feddwl â chi. Rydym yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio, yn rhithwir ac wyneb yn wyneb, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu cydberthnasau ystyrlon â chydweithwyr o bob rhan o'r sector. Gall y cysylltiadau hyn arwain at gydweithrediadau, partneriaethau a chyfleoedd newydd i dyfu'n broffesiynol.

 

Prosiectau Gwella Cydweithredol

 

Fel aelod o QAA, bydd cyfle i chi wneud cais am gymorth ariannol, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ar gyfer y blaenoriaethau a rannwch. Gan fynd i'r afael â heriau pwysig a gyrru arloesiad, nod ein rhaglen o Brosiectau Gwella Cydweithredol yw gwella profiad dysgu'r myfyrwyr drwy wneud gwaith ymchwil a datblygu adnoddau. Trwy gydweithio â sefydliadau eraill, gallwch rannu gwybodaeth, cronni adnoddau a chael dylanwad ystyrlon yn eich maes chi.

 

Rhwydweithiau, hyfforddiant a digwyddiadau | Prosiectau Gwella Cydweithredol


""

Ehangu eich gwybodaeth a gwella eich arferion

Llyfrgell adnoddau gynhwysfawr

 

Sicrhau mynediad i lyfrgell adnoddau gynhwysfawr i'n haelodau, sy'n cynnwys papurau ymchwil, deunyddiau briffio am bolisi, ac astudiaethau achos. Clywed y diweddaraf am y datblygiadau mwyaf diweddar a'r arferion gorau ym meysydd sicrhau ansawdd ac addysg uwch.

 

Canllawiau

 

Canfod atebion a dilyn arferion effeithiol gyda'n canllawiau manwl. Llunnir yr adnoddau hyn i'ch helpu i fynd i'r afael â heriau cymhleth mewn addysg uwch ac addysg drydyddol a gweithredu strategaethau llwyddiannus. P'un a ydych ch'n ymdrin â newidiadau ym maes polisi, prosesau achredu neu fentrau gwella ansawdd, mae ein canllawiau'n darparu cyngor clir, rhwydd ei weithredu i gefnogi eich ymdrechion.

 

Pecynnau cymorth ymarferol

 

Gwnewch eich tasgau'n fwy effeithlon gyda'n pecynnau cymorth ymarferol ac addasadwy. Mae'r deunyddiau hyn wedi eu teilwra i gefnogi eich gweithredoedd dyddiol a gwella eich gallu i fod yn gynhyrchiol.

 

Deunyddiau briffio am bolisi a strategaeth

 

Derbyn crynodebau cynhwysfawr o ddatblygiadau allweddol ym maes polisi i gefnogi eich gwaith cynllunio strategol. Mae ein deunyddiau briffio'n rhoi'r wybodaeth yr ydych ei hangen i chi i wneud penderfyniadau deallus ac aros ar flaen y gad. Rydym yn ymwneud ag amrywiaeth eang o bynciau, o newidiadau i reoliadau i dueddiadau cynyddol amlwg, gan sicrhau bod gennych y wybodaeth yr ydych ei hangen i lywio drwy'r tirlun addysg uwch cymhleth.

 

Ein gwefan 'Adnoddau i'n Haelodau' | Ein cyhoeddiadau 'Quality Compass'


""

Ateb eich blaenoriaethau chi

Cefnogi dysgu ac addysgu o safon uchel – Helpu darparwyr wrth iddyn nhw gael eu gwerthuso i weld yw eu hansawdd uwchlaw'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol

 

Mae Aelodaeth o QAA yn rhoi'r arweiniad a'r cyfryngau angenrheidiol i'ch sefydliad i ddarparu dysgu ac addysgu o safon uchel. Mae ein hadnoddau'n cefnogi cynllunio, darparu, gwella a gwerthuso'r dysgu a'r addysgu ar draws yr holl fathau gwahanol o ddarpariaeth. Mae aelodaeth hefyd yn rhoi'r cyfryngau angenrheidiol i chi i ddangos ansawdd y dysgu a'r addysgu yn eich sefydliad, a'ch ymrwymiad i wella profiad dysgu eich myfyrwyr.

 

Arloesi dulliau darparu – Cofleidio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, uniondeb academaidd a rhagor

 

Wrth i'r sector addysg uwch a'r sector addysg drydyddol barhau i arloesi a newid, mae Aelodaeth QAA yn eich cadw chi ar reng flaen y datblygiadau hyn. Rydym yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i chi am y tueddiadau diweddaraf, yn cynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol a sicrhau uniondeb academaidd. Mae ein hadnoddau'n eich helpu i lywio'r arloesi hwn, gan adael i'ch sefydliad barhau'n gystadleuol a chydymffurfio bob amser â safonau sy'n datblygu.

 

Cynnal ansawdd yn ystod cyfnodau heriol – Gwneud eich swyddogaeth sicrhau ansawdd yn fwy effeithlon

 

Mewn cyfnodau o ansicrwydd, gall fod yn heriol cynnal ansawdd o safon uchel. Mae Aelodaeth QAA yn cynnig atebion ymarferol i'ch helpu i gyflawni eich swyddogaeth sicrhau ansawdd yn fwy effeithlon. Mae ein hadnoddau a'n cymorth yn eich galluogi chi i symleiddio prosesau, gostwng llwyth gwaith gweinyddol, a chanolbwyntio ar ddarparu addysg ardderchog i'ch myfyrwyr.

 

Addysgu, dysgu ac asesu | Uniondeb academaidd | Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol |  Ymgysylltiad a chynrychiolaeth myfyrwyr

Prosiectau Gwella Cydweithredol

 

Mae Prosiect Gwella Cydweithredol yn gyfle gwych i aelodau QAA ddod at ei gilydd i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb iddyn nhw mewn perthynas â gwella profiad dysgu eu myfyrwyr. Mae'r prosiectau hyn nid yn unig o fudd i'r sefydliadau sy'n cymryd rhan, maen nhw hefyd yn arwain at ddatblygu canlyniadau ymarferol y gall pob aelod o QAA eu defnyddio.


Dysgwch ragor am yr holl brosiectau cyfredol, a gwelwch yr adnoddau a'r canlyniadau
CEP icon

Mae ethos cydweithredol QAA yn eu gwneud yn gydweithwyr gwych i brifysgolion wrth i'r prifysgolion hynny weithio i wella pob agwedd o'r dysgu, yr addysgu a'r asesu. Mae gweithio gyda QAA ar ein dull tiwtora academaidd personol wedi bod yn wych. Mae eu cydweithwyr wedi helpu i bennu a hwyluso dulliau o gydweithio â sefydliadau eraill sy'n gwneud gwaith cyffelyb. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at ddatblygu rhwydwaith cenedlaethol newydd o arweinwyr strategol ym maes tiwtora personol.

Dr Steve Briggs, Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Addysgu a Dysgu, Prifysgol Swydd Bedford