Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Côd Ansawdd yn cynrychioli dealltwriaeth gyffredin ynghylch arfer o ran ansawdd ar draws sector addysg uwch y DU. Mae'n diogelu buddiannau'r cyhoedd a myfyrwyr, ac yn hyrwyddo enw da addysg uwch y DU sy'n arwain y byd am ansawdd.


Datblygwyd yr argraffiad hwn o'r Côd Ansawdd gan QAA ar ran Pwyllgor Sefydlog y DU ar gyfer Asesu Ansawdd (UKSCQA) yn 2018. Mae’n berthnasol i ddarparwyr addysg uwch sydd wedi’u lleoli ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae’n gyfeirbwynt allweddol ar gyfer y trefniadau ansawdd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr, nid yw’r Côd Ansawdd yn rheoleiddiol, ond gall darparwyr ei ddefnyddio fel sail i’w hymagwedd at ansawdd, fel ffordd o ddarparu cymaroldeb ar draws y DU ac i gynorthwyo gwelededd rhyngwladol.


UKSCQA logo

 

Pa fersiwn o'r Côd Ansawdd ddylwn i ei defnyddio?

Mae Côd Ansawdd 2024 ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod pontio o ran ei weithredu. I gael gwybodaeth am ba fersiwn i'w defnyddio ym mhob un o wledydd y DU, ac ar gyfer Adolygiad Goruchwyliaeth Addysgol, ewch i dudalen y Côd Ansawdd lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolen i Gôd Ansawdd 2024 pe bai ei angen arnoch.


Sut mae'r Côd Ansawdd wedi'i strwythuro


Mae Cod Ansawdd 2018 yn seiliedig ar nifer o elfennau sydd gyda’i gilydd yn darparu cyfeirbwynt ar gyfer sicrhau ansawdd effeithiol.


Disgwyliadau - sy'n mynegi'n gryno’r deilliannau y dylai darparwyr eu cyflawni wrth osod a chynnal safonau eu dyfarniadau, ac ar gyfer rheoli ansawdd eu darpariaeth.


Arferion Craidd a Chyffredin – sy’n cynrychioli ffyrdd effeithiol o weithio fel sail i gyflawni’r Disgwyliadau ac a fydd yn sicrhau deilliannau cadarnhaol i fyfyrwyr. Mae arferion craidd a chyffredin yn parhau i fod yn rhan o'r fframweithiau ansawdd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn Lloegr mae angen i sefydliadau gydymffurfio ag amodau cofrestru fframwaith rheoleiddio'r Swyddfa Myfyrwyr


Cyngor a chanllawiau - sy’n cynnwys themâu a ddatblygwyd gan y sector, ac maent wedi'u cynllunio i gynorthwyo darparwyr i ddatblygu a chynnal arferion sicrhau ansawdd effeithiol. Nid yw hyn yn orfodol i ddarparwyr, ond mae'n dangos ystod o ddulliau posibl.


Er nad yw'r Côd Ansawdd yn cynrychioli gofynion rheoleiddiol ar gyfer sefydliadau yn Lloegr, gall y darparwyr hynny ddewis defnyddio'r Côd Ansawdd i fodloni eu hunain bod eu prosesau ansawdd yn cefnogi gwelliant uwchlaw'r waelodlin.



Y Disgwyliadau ac Arferion

Y disgwyliadau o ran safonau

  • Y disgwyliadau o ran ansawdd Mae safonau academaidd y cyrsiau'n bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.
  • Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir ac a roddir i'r myfyrwyr pan fyddent yn cymhwyso a thros amser yn cyfateb â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.

Yr Arferion Craidd


Mae'r darparwr yn sicrhau bod y safonau trothwy ar gyfer ei gymwysterau'n gyson â'r fframweithiau cymwysterau cenedlaethol sy'n berthnasol iddynt.


Mae'r darparwr yn sicrhau bod y myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn cael y cyfle i gyrraedd safonau sy'n uwch na'r lefel trothwy sy'n cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir gan fyfyrwyr darparwyr eraill yn y DU.


Lle mae'r darparwr yn gweithio mewn partneriaeth  â sefydliadau eraill, mae ganddo drefniadau effeithiol  i sicrhau bod safonau ei ddyfarniadau'n sicr ac yn ddibynadwy, lle bynnag neu sut bynnag y darperir  y cyrsiau neu pwy bynnag sy'n eu darparu.


Mae'r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, ac yn defnyddio prosesau ar gyfer asesu a dosbarthu sy'n ddibynadwy, yn deg ac yn eglur. Yr Arferion Cyffredin Mae'r darparwr yn adolygu ei Arferion Craidd sy'n ymwneud â safonau'n rheolaidd, ac mae'n defnyddio'r canlyniadau  i ysgogi datblygiad a gwelliant.

Yr Arferion Cyffredin


Mae'r darparwr yn adolygu ei Arferion Craidd sy'n ymwneud â safonau'n rheolaidd, ac mae'n defnyddio'r canlyniadau i ysgogi datblygiad a gwelliant.

 

Y disgwyliadau o ran ansawdd

  • Mae'r cyrsiau wedi'u llunio'n dda, ac maent yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i'r myfyrwyr i gyd, ac yn caniatáu i gyflawniad y myfyriwr gael ei asesu mewn ffordd ddibynadwy.
  • O'r cam derbyn hyd y graddio, mae'r myfyrwyr i gyd yn derbyn y gefnogaeth y maent ei hangen i lwyddo ym maes addysg uwch ac i elwa o'r addysg uwch.

Yr Arferion Craidd


Mae gan y darparwr system dderbyn sy'n deg, yn ddibynadwy ac yn gynhwysol.


Mae'r darparwr yn llunio a/neu'n darparu cyrsiau o safon uchel.


Mae gan y darparwr nifer ddigonol o staff sydd â'r cymwysterau a'r sgiliau priodol i ddarparu profiad academaidd o safon uchel.


Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu  a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr sy'n briodol ac yn ddigonol i ddarparu profiad academaidd o safon uchel.


Mae'r darparwr yn cymryd camau i gynnwys ei fyfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, yn y prosesau o sicrhau a gwella ansawdd eu profiad addysgol.


Mae gan y darparwr weithdrefnau teg ac eglur sydd ar gael i'r myfyrwyr i gyd, ar gyfer ymdrin â chwynion ac apeliadau.

 

Lle mae'r darparwr yn cynnig graddau ymchwil, mae'n eu darparu mewn amgylcheddau ymchwil sy'n addas ac yn gefnogol.


Lle mae'r darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, mae ganddo drefniadau effeithiol  i sicrhau bod y profiad academaidd o safon uchel,  lle bynnag neu sut bynnag y darperir y cyrsiau neu pwy bynnag sy'n eu darparu.


Mae'r darparwr yn cefnogi ei fyfyrwyr i gyd i gael canlyniadau llwyddiannus ar lefelau academaidd a phroffesiynol.

Yr Arferion Cyffredin


Mae'r darparwr yn adolygu ei Arferion Craidd sy'n ymwneud ag ansawdd  yn rheolaidd, ac mae'n defnyddio'r canlyniadau  i ysgogi datblygiad a gwelliant.


Mae dulliau'r darparwr o reoli ansawdd yn cynnwys defnyddio arbenigedd allanol.


Mae'r darparwr yn cynnwys ei fyfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, yn y prosesau  o ddatblygu, sicrhau  a gwella ansawdd eu profiad addysgol.

Cyngor a Chanllawiau

Mae'r adran Cyngor a Chanllawiau wedi'i rhannu'n 12 Thema, ac fe’i bwriadwyd i gynorthwyo darparwyr newydd a’r rhai sy’n gweithredu eisoes i fodloni gofynion gorfodol y Côd Ansawdd. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â’r sector addysg uwch ac mae’n cynnwys egwyddorion arweiniol, cyngor ymarferol ac adnoddau pellach. Nid yw'r Cyngor a Chanllawiau’n orfodol i ddarparwyr, ond mae'n dangos dulliau gweithredu posibl. (Sylwer mai dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.)


Mapio ESG 2015 i Gôd Ansawdd 2018

Mae'r ddogfen hon yn dangos sut mae'r safonau a nodir yn y Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG 2015) yn mapio i'r Côd Ansawdd a chyfeirbwyntiau cysylltiedig. Gall darparwyr ddefnyddio'r tabl i sicrhau bod eu prosesau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd yn gyson â'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. (Sylwer bod y ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig.)

 

A Map of the Standards and Guidelines for Quality Assurance in the European Higher Education Area to the 2018 UK Quality Code for Higher Education

Dyddiad cyhoeddi: 20 Meh 2022

Cyfeirbwyntiau allweddol