Rydym yn ymfalchïo yn y gwaith a wnawn a chredwn mai ein pobl sy'n ein galluogi i gefnogi myfyrwyr a'r sector addysg uwch yn llwyddiannus. Rydym yn penodi pobl sydd â'r arbenigedd a'r sgiliau priodol i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth, ac sydd â'r un brwdfrydedd â ni dros sicrhau'r safonau gorau ym maes addysg uwch.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i'n staff, ochr yn ochr â'n polisi 'Hyblyg+'. Rydym yn gwbl ymroddedig i ganiatáu hyblygrwydd mewn bywyd pob dydd, ac rydym wedi mabwysiadu diwylliant o ymddiriedaeth a thegwch sy'n wirioneddol annog QAA a'i staff i ffynnu. Fel arfer, dylai ein staff allu dewis ymhle a phryd y maen nhw'n gweithio, ar yr amod bod anghenion y busnes yn cael eu hateb.
Rydym yn cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn dod â manteision mawr. Ein nod yw sicrhau bod cyfansoddiad ein staff yn cynrychioli pob rhan o gymdeithas yn gywir, a sicrhau bod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, a'u bod yn rhydd i fynegi eu hunain beth bynnag fo eu hunaniaeth neu eu cefndir, er mwyn galluogi iddyn nhw roi o'u gorau. Rydym yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau a geir yn sgil amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau, safbwyntiau a sgiliau, ac rydym yn annog pobl sydd â'r cymwysterau priodol yn gryf i ymgeisio ac i ymuno â ni.
Nid yw QAA yn aros yn llonydd. Rydym yn datblygu'n barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ateb anghenion y rheiny yr ydym yn eu cefnogi yn y DU a thramor.
Swyddi gwag
QAA Cymdeithasol
Credwn mewn cael hwyl a chefnogi'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt. Mae gennym Weithgor Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (Gweithgor CCC) sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r asiantaeth. Mae'r grŵp hwn yn ystyried ymagwedd QAA tuag at gynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, yn unol â'n cynlluniau strategol a'n gwerthoedd. Un o'n hamcanion yw darparu cyfleoedd datblygiad a chadwraeth i'n cydweithwyr.
Ers cyflwyno ein polisi 'Hyblyg+', ac am fod ein pobl yn fwy gwasgaredig yn ddaearyddol erbyn hyn, rydym wedi bod yn ystyried y ffordd orau o gynnal digwyddiadau cymdeithasol ac elusennol. Mae'r Gweithgor CCC wrthi'n gweithio ar hyn.
Ein swyddfeydd
Rydym yn annog ein cydweithwyr i weithio'n hyblyg ledled y DU. Fel arfer, dylai ein cydweithwyr allu dewis ymhle a phryd y maen nhw'n gweithio, ar yr amod bod anghenion y busnes yn cael eu hateb. Yn dibynnu ar eu rolau a'u cyfrifoldebau, gallai hyn gynnwys safleoedd cleientiaid neu sefydliadau.
Nod ein polisi 'Hyblyg+' yw caniatáu hyblygrwydd i'n cydweithwyr yn eu diwrnod gwaith i'w helpu i gydbwyso eu bywyd cartref â'u bywyd gwaith, ond gan barhau i roi gwerth i QAA. Wrth gwrs, mae'r opsiwn gan bobl o hyd i weithio'n gyfan gwbl yn y swyddfa os dymunant.
Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerloyw i alluogi i bobl gyfarfod wyneb yn wyneb â'u timau neu unigolion eraill.