Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy'n gweithio er budd y myfyrwyr a'r sector addysg uwch, ac mae'n un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes sicrhau ansawdd. Mae darparwyr addysg uwch a chyrff rheoleiddio'n ymddiried ynom ni i gynnal a gwella ansawdd a safonau. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o'n gwaith. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, asiantaethau a sefydliadau drwy'r byd i gyd er budd addysg uwch y DU a'i henw da'n rhyngwladol.
Mae ein gwaith yn ategu ein cenhadaeth i ddiogelu safonau a gwella addysg uwch y DU, lle bynnag y mae'n cael ei darparu ledled y byd.