Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol (Adolygiad GorA) yw enw'r dull a ddefnyddir i adolygu a monitro darparwyr preifat sy'n cynnig cyrsiau addysg uwch yn y DU ond nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus yn flynyddol gan unrhyw un o'r cyrff sy'n cyllido neu'n rheoleiddio addysg uwch yn y DU.


Lansiwyd y dull Adolygiad GorA ym mis Gorffennaf 2024 i gymryd lle'r pedwar dull ar wahân a ddefnyddiwyd gynt, fel a ganlyn: Adolygiad Addysg Uwch (Darparwyr Amgen), Adolygiad Addysg Uwch (Darparwyr Tramor), Cynllun Cydnabod ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol, a Goruchwyliaeth Addysgol - Trefniadau Eithriadol.

Canllawiau i Ddarparwyr

Mae'r canllaw hwn yn nodi manylion ynglŷn â phwy ddylai gael Adolygiad GorA ac at ba ddibenion - er enghraifft, i gael Trwydded Noddwr Myfyrwyr neu Ddynodiad Cwrs Penodol. Mae hefyd yn esbonio'r broses adolygu a'r gweithgareddau a fydd yn digwydd yn rhan ohoni. Yn hwyrach ym mis Gorffennaf 2024, byddwn yn cyhoeddi ein trefn ffioedd yn y fan yma ar gyfer gwneud Adolygiad GorA.



Ewch i'n tudalennau gwe pwrpasol isod i gael templedi adolygu a monitro i ddarparwyr sy'n atebol i gael Adolygiad GorA, neu wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais am gael Adolygiad GorA.


Canlyniadau'r ymgynghoriad

Rhwng misoedd Mawrth a Mai 2024, gwnaethom ymgynghoriad i gael sylwadau am y dull newydd arfaethedig o wneud Adolygiad GorA. Mae'r ddogfen isod (sydd ar gael yn y Saesneg yn unig) yn nodi manylion ein hymatebion i ganlyniadau'r ymgynghoriad.