Gweithredir adolygiadau QAA gan dimau a ddetholir o gronfa o fwy na 400 o adolygwyr sy'n dod o brifysgolion a cholegau ledled y DU. Mae egwyddor yr adolygiadau gan gymheiriaid yn sicrhau y gall y darparwyr deimlo'n hyderus bod y rheiny sy'n gwneud y beirniadaethau'n bobl sydd â phrofiad a dealltwriaeth o addysg uwch. Mae'r myfyrwyr yn bartneriaid yn eu profiadau dysgu, felly mae pob tîm adolygu'n cynnwys myfyriwr fel aelod llawn.
Daw ein hadolygwyr o ddarparwyr addysg uwch o bob math - prifysgolion, colegau addysg bellach a cholegau preifat - ac o'r prif ddisgyblaethau astudio. Mae'r rhan fwyaf o'n hadolygwyr yn academyddion sydd â chymwysterau ôl-raddedig, ac mae gan nifer ohonynt raddau doethuriaeth. Mae rhai o'n hadolygwyr yn gweithio mewn swyddi uwch, megis Is-Gangellorion, Dirprwy Is-Gangellorion neu Benaethiaid. Mae eraill wedi ymddeol yn ddiweddar o brifysgol neu goleg a chanddynt brofiad a gwybodaeth helaeth am addysg uwch. Rydym yn ceisio sicrhau fod pob tîm adolygu'n adlewyrchu'r math o ddarparwr sy'n cael ei adolygu.