Trwy Aelodaeth QAA, rydym yn darparu gweledigaeth, arbenigedd ac arweiniad ynglŷn â'r materion sy'n bwysig i fyfyrwyr a staff.
Rydym yn gweithio'n agos â'r holl ddarparwyr addysg uwch a'u cyrff cyllido a rheoleiddio perthnasol, yn unol â pholisïau a gofynion rheoleiddiol pob gwlad o'r DU.
Rydym yn gweithio'n rhyngwladol ar ran ein haelodau a sector addysg uwch ehangach y DU. Erbyn hyn, rydym yn croesawu aelodau o wledydd tramor, yn ogystal â'n haelodau o'r DU.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid drwy'r byd i gyd i wneud adolygiadau a darparu adroddiadau am ddarpariaeth addysg drawswladol y DU, gan sicrhau ei safonau a gwella ei hansawdd. Credwn fod darpariaeth addysg drawswladol y DU yn helpu i gynnal a datblygu enw da addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd.
Ymysg ein cyfrifoldebau eraill ar draws y DU, ni yw'r corff sy'n rheoleiddio'r Diploma Mynediad i AU, sy'n gweddnewid bywydau drwy gynnig mynediad i addysg uwch i fyfyrwyr o gefndiroedd anhraddodiadol.
Mae ein strategaeth yn nodi blaenoriaethau strategol QAA.