Sail Wybodaeth Adolygiadau yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 11 Meh 2024
Yng Nghymru, rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr addysg uwch ac amryw o sefydliadau eraill megis Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a Phrifysgolion Cymru, i gefnogi ac adolygu'r ffordd y rheolir ansawdd a safonau academaidd.
Mae ein Pwyllgor Cynghori ar Strategaeth QAA Cymru wedi ei gadeirio gan aelod o'n Bwrdd sy'n dod o'r sector prifysgolion yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn rhoi cyngor strategol i ni ar ein gwaith ac yn sicrhau bod ein Bwrdd yn hollol ymwybodol o faterion penodol sy'n berthnasol i Gymru.
Rydym yn gweithio gyda'n haelodau yng Nghymru mewn amrywiaeth fawr o weithgareddau sy'n benodol berthnasol i Gymru, drwy weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cyd-ymrwymiad i wella a chyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr.
Adolygiad Gwella Ansawdd yw ein dull o adolygu darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Mae hwn yn cyfuno dulliau o sicrhau ansawdd gyda gwaith i wella ansawdd ac mae'n cynnwys y myfyrwyr yn y broses. Gellir addasu'r Adolygiad i gyfateb â natur arbennig y brifysgol neu'r coleg dan sylw.
Mae'r broses Adolygiad Ansawdd Porth yn gyfle i ddarparwr addysg uwch ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion ansawdd sylfaenol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.
Mae’r sail wybodaeth hon wedi’i datblygu o ddeilliannau’r Adolygiad Gwella Ansawdd a’r Adolygiad Ansawdd Porth - Cymru rhwng 2017 a’r presennol. Mae’r sail wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y dulliau adolygu gan gynnwys meysydd beirniadaeth, categoreiddio canmoliaeth, cadarnhau, meysydd ar gyfer datblygu a gwelliannau penodol, a newidiadau yn ystod cylchred. Gall defnyddwyr ddidoli’r canlyniadau fesul themâu o Gôd Ansawdd y DU yn ogystal â chategorïau ychwanegol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Meh 2024
Mae pob un o'n timau adolygu yng Nghymru'n cynnwys aelod sy'n fyfyriwr, yn rhan o'n hymdrech i gynnwys myfyrwyr yn y broses o sicrhau a gwella ansawdd eu haddysg uwch eu hunain.
Mae ein canllaw'n rhoi trosolwg o'r ffordd y mae myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y broses adolygu, a bydd yn helpu'r darparwyr a'u myfyrwyr i gynllunio eu gwaith o baratoi ar gyfer y broses. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â'r llawlyfr adolygiad perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Meh 2024
Yn 2024, aethom ati i gynhyrchu’r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn yr Ardal Addysg Uwch Ewropeaidd (ESG). Mae hwn bellach wedi'i gyhoeddi ar wefan y Gymdeithas Ewropeaidd er Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (ENQA). Mae QAA Cymru’n defnyddio'r ESG fel cyfeirbwynt rheoleiddiol allweddol sydd, ochr-yn-ochr â Chôd Ansawdd y DU, yn sail i'r Adolygiad Gwella Ansawdd.
Aethom ati i gyfieithu'r ESG fel rhan o’n hamcan i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o rôl bwysig y Gymraeg mewn addysg uwch yng Nghymru, i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaeth y corff cyllido a rheoleiddio Medr o hyrwyddo addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae QAA yn cynhyrchu astudiaethau achos drwy ddadansoddi arferion canmoladwy sy'n dod i'r amlwg mewn Adolygiadau Gwella Ansawdd er mwyn hyrwyddo arfer da drwy'r sector cyfan.
Dyddiad cyhoeddi: 08 Meh 2022
Dyddiad cyhoeddi: 08 Meh 2022
Hefyd, mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru'n cynnal cyflwyniadau'n rheolaidd i rannu arferion canmoladwy sy'n dod i'r amlwg mewn Adolygiadau Gwella Ansawdd, ac arferion da eraill o bob rhan o'r sector yng Nghymru a thu hwnt. Mae adnoddau'r Rhwydwaith ar gael ar ein gwefan neilltuedig 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Ein hegwyddor wrth wneud ein gwaith yng Nghymru yw y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel y mae'n berthnasol i ni.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ion 2025
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gor 2016
Rydym yn gweithio gyda Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn flaenorol - CCAUC) i ddarparu gweithgareddau â’r nod o wella profiad myfyrwyr yng Nghymru. Mae QAA yn derbyn arian ar gyfer y gwaith hwn trwy drefniadau grant.
Cafodd prosiect Rhaglenni Cydweithredol Cymru ei ariannu gan Gronfa Buddsoddi ac Adfer Addysg Uwch (Cronfa BAAU) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Arweiniwyd y prosiect gan Brifysgol Abertawe ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru. Mae'r pecyn adnoddau wedi ei gynllunio i gynorthwyo unrhyw un sydd â diddordeb mewn edrych yn fanylach ar ddarpariaeth gydweithredol, a gellir ei ddefnyddio i wella prosesau ansawdd yn y maes hwn.
Mae QAA Cymru wedi lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Prosiect Gwelliant Cydweithredol (PGC) newydd a ariennir gan CCAUC trwy drefniadau grant gyda QAA.
Rydym wedi darparu canllawiau i helpu darparwyr addysg uwch sy'n darparu a/neu'n asesu rhaglenni academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru i sicrhau bod ganddynt drefniadau ymarferol effeithiol. Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu nifer o'r egwyddorion a'r arferion allweddol sy'n berthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2019
Mae Cymwysterau Cymru'n rheoleiddio cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae QAA yn gyfrifol am y fframwaith rheoleiddio ar gyfer rheoleiddio a chydnabod cyrsiau Mynediad i AU. Mae ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi cyfrifoldebau perthnasol y ddwy ochr am ddarpariaeth y cymhwyster hwn a gynigir yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hyd 2018