
Prifysgolion a cholegau
I sicrhau a gwella ansawdd profiad y myfyrwyr, rydym yn gweithio gyda phob prifysgol a choleg ledled y DU sy'n darparu rhaglenni astudio addysg uwch.
Trwy Aelodaeth QAA, rydym yn darparu gweledigaeth, arbenigedd ac arweiniad ynglŷn â'r materion sy'n bwysig i fyfyrwyr a staff.

Myfyrwyr
Mae'r myfyrwyr wrth graidd popeth a wnawn. Rydym yn cynnwys y myfyrwyr ar draws ein gwaith cyfan ac rydym yn arweinydd byd o ran cynnwys myfyrwyr mewn prosesau sicrhau ansawdd. Mae myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn ein timau adolygu, maent yn aelodau o Fwrdd QAA ac maent yn rhoi cyngor i ni drwy ein Pwyllgor Myfyrwyr i Gynghori ar Strategaeth.
Rydym yn frwd o ran hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr, sy'n ymwneud â sicrhau bod gan y myfyrwyr y grym i siapio eu profiad addysgol eu hunain a chreu cyfleoedd rhagorol i ddysgu ac addysgu.

Cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio
Rydym yn gweithio gyda chyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio (cyrff PSR) yn rhan o'n nod parhaol o gynnal a gwella ansawdd addysg uwch y DU. Mae'r cyrff hyn yn cynnwys cyrff proffesiynol, cyrff rheoleiddio a'r rheiny sydd â'r awdurdod statudol dros broffesiwn neu grŵp o weithwyr proffesiynol. Mae cyrff PSR yn gosod a rheoleiddio'r safonau ar gyfer mynediad i'w proffesiynau penodol, ac maent yn aml yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sicrhau ansawdd. Hefyd, maent yn hyrwyddo buddiannau pobl sy'n gweithio yn y proffesiynau.

Ein Fforwm Cyrff PSR
Rydym wedi ymrwymo i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith cyrff PSR a gwella cyfathrebiad rhwng y sector addysg uwch a'i gyrff rheoleiddio. Mae ein Fforymau Cyrff PSR yn cynnig cyfleoedd i drafod materion allweddol, rhannu arferion da, a chael gwybod am yr holl ddatblygiadau diweddaraf mewn polisïau addysg uwch.
Cyhoeddir yr adnoddau o'n Fforymau Cyrff PSR ar ein gwefan neilltuedig 'Adnoddau i'n Haelodau'.