Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch (Côd Ansawdd) yn mynegi egwyddorion addysg uwch y DU ar gyfer cadarnhau safonau academaidd er mwyn sicrhau a gwella ansawdd.


Yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth ar draws y DU, mae’r Côd Ansawdd yn galluogi darparwyr i weld yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan ei gilydd, waeth beth fo’r fframwaith rheoleiddio y maent yn gweithredu ynddo. Mae'n hysbysu'r cyhoedd, yn diogelu buddiannau myfyrwyr ac yn hyrwyddo enw da'r DU ledled y byd am ddarpariaeth addysg o ansawdd uchel.



Sut mae'r Côd Ansawdd yn cael ei ddefnyddio


Gall pob darparydd ledled y DU ddefnyddio'r Côd Ansawdd i fodloni eu hunain, rhanddeiliaid allanol a phartneriaid rhyngwladol bod eu prosesau ansawdd yn cefnogi gwelliant uwchlaw'r waelodlin. Gan fod y Côd Ansawdd yn alinio â'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG), mae'n cynnig fframwaith a gydnabyddir yn rhyngwladol i ddarparwyr, fel y gallant ddangos eu bod yn darparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel, gan alluogi myfyrwyr i lwyddo yn eu hastudiaethau a symud ymlaen â'u nodau personol a phroffesiynol.


I’r darparwyr sy'n defnyddio'r Côd Ansawdd fel cyfeirbwynt fel rhan o'u gofynion rheoleiddiol, mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio pa fersiwn o'r Côd Ansawdd y dylech ei defnyddio.


Yn yr Alban

 

Bydd Côd Ansawdd 2024 yn cael ei ddefnyddio o ddechrau’r flwyddyn academaidd 2024-25 fel cyfeirbwynt i atgyfnerthu egwyddorion yr Adolygiad Gwella Ansawdd Trydyddol ac aliniad â Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd.

 

Yng Nghymru

 

Bydd Côd Ansawdd 2024 yn cael ei ddefnyddio o’r flwyddyn academaidd 2025-26, yn dilyn cyfnod gweithredu o 12 mis.

 

Yng Ngogledd Iwerddon

 

Mae Adran Economi Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn cynllunio dull adolygu newydd sy’n seiliedig ar welliant ar gyfer Gogledd Iwerddon ac mae’n bwriadu i’r Côd Ansawdd fod yn gyfeirbwynt o fewn hynny.

 

At ddibenion Adolygiad Goruchwyliaeth Addysgol

 

Bydd Côd Ansawdd 2024 yn cael ei ddefnyddio o ddechrau’r flwyddyn academaidd 2024-25 ar gyfer darparwyr sy’n cael eu hadolygu o dan y dull Adolygu Goruchwyliaeth Addysgol.

 

Yn Lloegr

 

Nid oes unrhyw ofyniad rheoliadol i ddefnyddio'r Côd Ansawdd (oni bai eich bod yn destun yr Adolygiad Goruchwyliaeth Addysgol). Fe'ch cynghorir i wirio gyda phartneriaid cydweithredol pa fframweithiau ansawdd y maent yn alinio â hwy, yn enwedig os oes angen iddynt alinio â Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd.

Cyrchu’r Côd Ansawdd

Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y fersiwn gywir o'r Côd Ansawdd wrth i ni drosglwyddo argraffiad 2024 i'r sector. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r tîm QAA priodol.


Datblygu'r Côd Ansawdd 2022-24

Mae QAA wedi ymrwymo i'r Côd Ansawdd barhau i fod yn gyfeirbwynt dan arweiniad y sector ledled y DU, ac mae wedi cymryd ymagwedd ymgynghorol at ei ailddatblygu. Lansiwyd yr argraffiad newydd ym mis Mehefin 2024.


Roedd angen ailddatblygu'r Côd Ansawdd oherwydd newidiadau yn strwythurau rheoleiddiol addysg uwch ledled y DU, ynghyd â chyflwyno dulliau gweithredu trydyddol penodol yng Nghymru a'r Alban. Roedd hefyd yn cynnig y cyfle i ystyried cyfeiriad, strwythur, cynnwys a diwyg y Côd Ansawdd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gael ei werthfawrogi ac yn ddefnyddiol ar draws y DU, yn ogystal ag atgyfnerthu enw da rhyngwladol addysg uwch y DU.


Gallwch ddarganfod mwy am sut y datblygwyd y Côd Ansawdd newydd ar ein tudalen we Ailddatblygu Côd Ansawdd 2022-24.