Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae Côd Ansawdd y DU yn gyfeirbwynt dan arweiniad y sector y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd hyblyg. Mae'n galluogi darparwyr i ddeall nodweddion allweddol y ddarpariaeth sy'n hanfodol i sicrhau safonau academaidd ac i gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Mae'n cynnig fframwaith ar gyfer gwerthuso a gwella polisïau ac arferion ac mae'n alinio â chyfeirbwyntiau rhyngwladol cydnabyddedig fel y Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG).


Yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth ar draws y DU, mae’r Côd Ansawdd yn galluogi darparwyr i weld yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan ei gilydd, waeth beth fo’r fframwaith rheoleiddio y maent yn gweithredu ynddo. Mae'n hysbysu'r cyhoedd, yn diogelu buddiannau myfyrwyr ac yn hyrwyddo enw da'r DU ledled y byd am ddarpariaeth addysg o ansawdd uchel.

Pa fersiwn o'r Côd Ansawdd ddylwn i ei defnyddio?

 

Mae Côd Ansawdd 2024 ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod pontio o ran ei weithredu. I gael gwybodaeth am ba fersiwn i'w defnyddio ym mhob un o wledydd y DU, ac ar gyfer Adolygiad Goruchwyliaeth Addysgol, ewch i dudalen y Côd Ansawdd lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolen i Gôd Ansawdd 2018 pe bai ei angen arnoch.

Datblygu Côd Ansawdd 2024


Mae Côd Ansawdd 2024 yn ei gyfanrwydd ar gael fel PDF y gellir ei lawrlwytho, ynghyd â dogfen grynodeb sy’n manylu ar y 12 Egwyddor y Cytunwyd arnynt gan y Sector. Gallwch hefyd weld yr Egwyddorion hyn ar y dudalen we hon, wedi'u trefnu yn ôl thema.


Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch 2024

Dyddiad cyhoeddi: 27 Meh 2024

Côd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch y DU 2024 - Egwyddorion y Cytunwyd arnynt gan y Sector

Dyddiad cyhoeddi: 27 Meh 2024

Mapio'r Côd Ansawdd i fframweithiau ansawdd a safonau eraill


Mewn ymateb i alw gan y sector, bydd QAA yn darparu cyfres o ddogfennau sy'n mapio'r Côd Ansawdd i'r fframweithiau canlynol:

  • Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG 2015)
  • Amodau B y Swyddfa Myfyrwyr (Lloegr)
  • Egwyddorion y Fframwaith Gwella Ansawdd Trydyddol (TQEF) (Yr Alban).

Cyngor a Chanllawiau


Bydd set o Gynghorion a Chanllawiau’n cyd-fynd â'r Côd Ansawdd. Bydd pob adran yn alinio ag un o'r 12 Egwyddor y Cytunwyd arnynt gan y Sector, ac fe'u cynlluniwyd i gynnig arweiniad ymarferol pellach sy'n dadansoddi ac yn ymhelaethu ar bob un o'r Egwyddorion a'u Harferion Allweddol.

Sut mae'r Côd Ansawdd wedi'i strwythuro

Egwyddorion y Cytunwyd arnynt gan y Sector ac Arferion Allweddol

Cliciwch ar yr Egwyddor o’r Côd Ansawdd sydd o ddiddordeb i chi er mwyn dangos ei Arferion Allweddol. Gweler dogfen Côd Ansawdd 2024 am wybodaeth lawn.



Ymagwedd strategol

Gwerthuso ansawdd a safonau

Gweithredu'r ymagwedd at wella ansawdd a safonau

Cyfeirbwyntiau allweddol