Aelodaeth QAA yng Nghymru 2025-26
Dyddiad cyhoeddi: 25 Maw 2025
Ymaelodwch â QAA er mwyn parhau i ddatgloi potensial llawn eich sefydliad. Gyda'n gilydd, gallwn siapio dyfodol y sector addysg uwch a'r sector addysg drydyddol.
Gall yr aelodau yng Nghymru fwynhau pecyn Aelodaeth QAA hollgynhwysol sydd, yn ddiofyn, yn cynnwys y gwasanaeth gwella 'International Insights', gweithgareddau sy'n benodol berthnasol i Gymru a mynediad i'n cynnig i'n haelodau ar draws y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Maw 2025
Gall aelodau QAA yng Nghymru arddangos ein Bathodyn Aelodaeth er mwyn dangos ymrwymiad eu sefydliad i wella ansawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2023
Mae'r broses o adnewyddu eich aelodaeth yn syml. Ym mis Mai, byddwch yn derbyn neges e-bost sy'n cynnwys dolen at eich ffurflen adnewyddu – y cwbl y bydd angen i chi ei wneud yw clicio ar y ddolen i gyflwyno eich ffurflen gyflawn erbyn diwedd mis Gorffennaf. I gadarnhau eich adnewyddiad, rhaid i chi dalu'r anfoneb am eich aelodaeth o fewn 30 diwrnod i'w derbyn, neu terfynir eich aelodaeth.
Os ydych yn ystyried ymuno â ni, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm a fydd yn hapus i glywed gennych a thrafod sut y gallwn helpu. Gallwch edrych a yw eich sefydliad yn Aelod o QAA yn barod yn ein cyfeiriadur o aelodau.
Blwyddyn aelodaeth QAA yw'r cyfnod o 1 Awst hyd 31 Gorffennaf y flwyddyn ddilynol. Mae aelodaeth ar gael i ddarparwyr addysg uwch sy'n cyflawni'r meini prawf a ganlyn:
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â chymhwysedd i fod yn aelod i'w chael yn ein dogfen 'Cytundeb Aelodaeth'.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2024
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2024
Yn rhan o'r aelodaeth yng Nghymru, mae'r pecyn gwella International Insights yn darparu adnoddau a digwyddiadau sydd wedi eu teilwra i bartneriaethau rhyngwladol a chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae'r gymuned 'International Insights' yn cynnwys mwy na 120 o sefydliadau sy'n aelodau o QAA, sy'n cysylltu â'i gilydd, siapio blaenoriaethau a manteisio ar arbenigedd a rhwydwaith byd-eang QAA.
Mae 'International Insights' yn cefnogi aelodau QAA yn eu gwaith rhyngwladol trwy weithgareddau ac adnoddau i staff sy'n cymryd rhan mewn:
Mae'r rhaglen yn darparu gwerth sylweddol drwy:
Wella partneriaethau rhyngwladol
Cynnig arweiniad ar reoli a datblygu cydweithrediadau rhyngwladol, gan sicrhau partneriaethau strategol a chynaliadwy.
Gefnogi myfyrwyr rhyngwladol yn y DU
Canolbwyntio ar wella agweddau penodol o daith astudio'r myfyriwr rhyngwladol, megis y cyfnodau cyn cyrraedd, cynefino, pontio ac integreiddio, sgiliau a chymorth academaidd, a gyrfaoedd a chyflogadwyedd.
Arddangos yr arferion gorau
Rhannu esiamplau o arferion effeithiol mewn meysydd megis strategaeth, trefniadau partneriaeth, gwaith ymchwil a chytundebau cyfnewid.
Darparu dealltwriaeth fanwl
Darparu adroddiadau manwl a gweminarau am dair gwlad y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar y tirlun addysg uwch, materion sicrhau ansawdd ac addysg drawswladol.
Hwyluso rhwydweithiau proffesiynol
Cynnig cyfleoedd i staff rannu eu sgiliau a'u gwybodaeth, a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn partneriaethau rhyngwladol, polisïau ac arferion.
Mae fy mhrofiad o weithio gyda QAA wedi bod yn eithriadol bositif. Mae fy aelodaeth wedi golygu bod amrywiaeth o adnoddau o safon uchel ar gael i mi, a gallaf fynychu digwyddiadau am ddim. Mae hyn wedi caniatáu i mi gysylltu â rhwydwaith o addysgwyr blaengar ym maes addysg uwch. Mae QAA yn deall y tirlun addysg uwch yn y DU yn glir, ac mae'n meithrin amgylchedd cydweithredol a chynhwysol sy'n croesawu amrywiaeth o safbwyntiau.
Dr Katherine Chapman, Cyfarwyddwr Rhaglen, Prifysgol Abertawe