Alastair Delaney
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr
Ymunodd Alastair â QAA ar ddechrau 2020, ac mae'n gyfrifol am amrywiaeth o swyddogaethau, yn cynnwys: Aelodaeth a Gwasanaethau Gwella Ansawdd; Materion Rhyngwladol a Gwasanaethau Proffesiynol; Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon; Sicrhau Ansawdd yn Lloegr; a Marchnata a Digwyddiadau. Mae hefyd yn arwain gwaith QAA o ymgysylltu â materion Ewropeaidd. Mae Alastair yn aelod o'r Tîm Gweithredol ac mae'n gweithredu fel Dirprwy Brif Weithredwr.
Hyd yn ddiweddar, Alastair oedd y Cyfarwyddwr dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn QAA. Cyn ymuno â QAA, Alastair oedd y Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd yn Healthcare Improvement Scotland, lle'r oedd yn gyfrifol am waith sicrhau ansawdd yn y GIG, ac am reoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol. Cyn hynny, Alastair oedd Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwaith Arolygu Education Scotland. Yn rhan o'r swydd hon, roedd yn gyfrifol am sicrhau annibyniaeth, ansawdd a darpariaeth holl waith craffu Education Scotland, o feithrinfeydd i ddarparwyr addysg bellach, ac roedd yn gyfrifol hefyd am gyfeiriad y gwaith hwn yn y dyfodol. Yn 2000, ymunodd Alastair ag Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg fel Arolygydd Ei Mawrhydi, ar ôl gweithio ym maes Dysgu a Datblygu Cymunedol yn y sector awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol.