QAA yn cyhoeddi argraffiad newydd o Gôd Ansawdd y DU
Dyddiad: | Mehefin 27 - 2024 |
---|
Mae QAA wedi cyhoeddi argraffiad newydd o Gôd Ansawdd y DU. Cyhoeddwyd yr argraffiad blaenorol yn 2018.
Mae argraffiad 2024 yn gynnyrch proses helaeth o ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid ar draws y sector.
Mewn ymateb i adborth gan y sector, mae'r argraffiad newydd hwn yn fwy manwl na'i ragflaenydd yn ei fynegiant o ddealltwriaeth a rennir gan y sector o'r arferion a'r egwyddorion allweddol sy'n sail i reoli ansawdd a safonau. Serch hynny, mae'n parhau i fod yn ganllaw cryno a hygyrch i'r egwyddorion a'r arferion hynny.
Mae ei fynegiant o 12 Egwyddor y Cytunwyd arnynt gan y Sector yn cynnig ffocws o’r newydd ar feysydd a themâu gan gynnwys ymgysylltiad â myfyrwyr, cynaladwyedd, partneriaethau, hunan-fonitro a chynwysoldeb.
Mae hefyd yn nodedig am ei fod wedi’i ddylunio i adlewyrchu safbwyntiau a gwerthoedd y sector ac i alinio â meini prawf a gydnabyddir yn rhyngwladol yn y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop, gan felly hyrwyddo cydnabyddiaeth o werth addysg uwch y DU, gartref a thramor.
'Mae'r argraffiad newydd o'r Côd Ansawdd yn adlewyrchu datblygiadau arwyddocaol yn yr amgylchedd addysg uwch ac yn cwmpasu safbwyntiau rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector a phedair gwlad y DU,' meddai Vicki Stott, Prif Weithredwr QAA.
‘Mae’n mynegi ein hegwyddorion cyffredin, yn pwysleisio rôl ragweithiol myfyrwyr wrth galon ein harferion, yn datgan aliniad ein prosesau â safonau rhyngwladol, ac yn tynnu sylw’r byd i gyd at ddealltwriaeth ein sector o’r gwerth y mae addysg yn ei roi i’n cymdeithas, ein diwylliant a’r economi a'i grym i drawsnewid bywydau pobl.