QAA Cymru yn lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb mewn Prosiect Gwelliant Cydweithredol newydd
Dyddiad: | Rhagfyr 1 - 2023 |
---|
Mae QAA Cymru wedi lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Prosiect Gwelliant Cydweithredol (PGC) newydd a ariennir gan CCAUC trwy drefniadau grant gyda QAA.
Mae PGC yn brosiectau ble mae grwpiau o ddarparwyr yn cytuno i gydweithio ar faterion o ddiddordeb i bob un ohonynt, sydd â'r potensial i greu gwerth i’r sector cyfan unwaith y byddant wedi'u cwblhau. Mae Prosiectau Gwelliant Cydweithredol wedi'u hanelu at hyrwyddo cydweithredu a datblygiad o fewn y sector. Bydd grwpiau prosiect yn adrodd ar gynnydd i QAA Cymru, a disgwylir iddynt rannu’r hyn maent wedi’i ddysgu o'u gweithgaredd. Mae grwpiau prosiect yn derbyn cefnogaeth gan QAA Cymru, trwy gyllid grant CCAUC.
Mae'r alwad hon ar gyfer un prosiect yn unig. Bydd y cynigion yn cael eu hadolygu gan ddilyn y meini prawf ar gyfer dethol a amlinellir yn y ddogfennaeth.
Dywedodd Kathryn O'Loan, Cyfarwyddwr QAA Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon:
'Mae Prosiectau Gwelliant Cydweithredol yn gyfle gwych i gydweithwyr rannu arbenigedd a chydweithio mewn meysydd sy’n mynd i fod o fudd, nid yn unig i'w sefydliad eu hunain, ond y sector cyfan.
Mae’r alwad ddiweddaraf ar gyfer PGC y drydedd y mae QAA wedi'i gwneud yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau i adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol. Rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn yn bosibl trwy ein trefniadau grant gyda CCAUC.'
Gallwch archwilio allbynnau o brosiectau cydweithredol eraill ar wefan QAA:
- Ymgysylltiad myfyrwyr â dysgu - Arweinydd: Prifysgol Bangor (partner cydweithredol: Grŵp Llandrillo Menai)
- Datblygu adnoddau ar gyfer myfyrwyr Ôl-Raddedig Ymchwil i’w cynorthwyo i baratoi am eu viva - Arweinydd: Prifysgol De Cymru (partneriaid cydweithredol: Cynghrair y Brifysgol, Prifysgol Huddersfield, Prifysgol Coventry); ariennir y prosiect hwn trwy gyllido ar gyfer gwelliant cydweithredol yng Nghymru, ond daeth i fodolaeth trwy gais gan aelodaeth ledled y DU am brosiectau
- Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol
- Arweinydd: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru (partneriaid cydweithredol: mae’r prosiect hwn yn cynnwys holl brifysgolion Cymru) - Gweithredu Fframwaith Cynllunio Micro-gymwysterau
- Arweinydd: Prifysgol Metropolitan Caerdydd (partneriaid cydweithredol: Coleg Gŵyr Abertawe, Prifysgol Wrecsam)
Oes gennych chi ddiddordeb mewn prosiect? Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ffurflen mynegi diddordeb isod a’u dychwelyd erbyn 5pm ar 24 Ionawr 2024. Croesewir ymatebion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yn ofynnol i bob cynnig llwyddiannus ar gyfer prosiectau ddechrau ac ymrwymo gwariant cyn diwedd Gorffennaf 2024.