Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn agor ymgynghoriad ar Gynllun Cydnabod ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch

Dyddiad: Mai 29 - 2024

Mae QAA wedi agor ymgynghoriad mawr ar newidiadau arfaethedig i'r Cynllun Cydnabod ar gyfer y Diploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae'r cynigion hyn yn golygu newidiadau sylweddol i'r dull y mae QAA yn bwriadu ei ddefnyddio i reoleiddio'r cymhwyster o flwyddyn academaidd 2025-26 ymlaen.

QAA yw'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Mynediad i AU), ac mae wedi bod yn cyflawni'r swyddogaeth hon ers ei sefydlu yn 1997.

Mae'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gymhwyster lefel 3, ac mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ddysgwyr sy'n oedolion ac sydd eisiau mynd i mewn i addysg uwch ond nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau angenrheidiol yn y maes academaidd y maent eisiau astudio ynddo. Lluniwyd y Diploma hwn i roi sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd astudio arbennig i'r dysgwyr, gan alluogi iddyn nhw ddilyn cymhwyster addysg uwch sydd ar lefel 4 neu'n uwch. Yn 2023, cadarnhaodd yr Adran Addysg yn Lloegr y bydd y Diploma Mynediad i Addysg Uwch a gydnabyddir gan QAA yn parhau i fod yn gymhwyster sy'n caniatáu i'w ddysgwyr sicrhau cyllid ar gyfer eu hastudiaethau.

Mae QAA yn trwyddedu Asiantaethau Dilysu Mynediad i Addysg Uwch (Asiantaethau DMiAU), i ddatblygu, dilysu a dyfarnu'r cymwysterau hyn, ac i weithio gyda darparwyr sy'n darparu cyrsiau Diploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae QAA yn rhoi gofynion rheoleiddiol ar Asiantaethau DMiAU drwy ei Meini Prawf Trwyddedu a'i threfniadau monitro cysylltiedig. Mae hefyd yn nodi gofynion penodol ym Manyleb y Diploma a'r Cynllun Graddio cysylltiedig, ac, mewn Disgrifwyr Pwnc ar gyfer rhai meysydd astudio, mae'n gosod gofynion o ran cynnwys y Diplomâu hynny. Dyma elfennau rheoleiddiol cyfansoddol y Cynllun Cydnabod.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â newidiadau sylweddol arfaethedig i'r Cynllun Cydnabod, gyda ffocws arbennig ar y Meini Prawf Trwyddedu a'r trefniadau ar gyfer monitro a sicrhau cydymffurfiad.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored am 12 wythnos, ac rydym yn croesawu cyfranogaeth gan bob rhanddeiliad, gan gynnwys Asiantaethau DMiAU, myfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau Mynediad i AU neu sydd wedi graddio ohonynt, darparwyr cyrsiau Mynediad i AU a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'u darparu, yn ogystal â darparwyr, gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisïau a chynrychiolwyr cyrff yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach.

Mae'r ddogfen ymgynghori lawn i'w gweld isod. Dylid cyflwyno atebion drwy gwblhau ein harolwg ar-lein erbyn 22 Awst 2024. Mae fersiwn MS Word o gwestiynau'r arolwg hefyd ar gael i'r rheini sy'n dymuno paratoi eu hatebion.

Y Diploma Mynediad i Addysg Uwch Adolygiad o'r Trefniadau Rheoleiddio a Thrwyddedu - Ymgynghoriad ar Newidiadau i'r Cynllun Cydnabod

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2024