Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Argraffiad newydd o'r canllaw i fyfyrwyr am adolygiadau QAA yng Nghymru

Dyddiad: Mehefin 27 - 2024

Mae QAA wedi cyhoeddi argraffiad newydd o'i Chanllaw i Fyfyrwyr am Adolygiadau QAA yng Nghymru, gyda chymorth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Nod y canllaw hwn yw rhoi cymorth a chyngor i'r myfyrwyr, cynrychiolwyr y myfyrwyr ac aelodau o'r staff sy'n cefnogi'r myfyrwyr wrth iddynt gymryd rhan mewn prosesau adolygu ansawdd dan arweiniad QAA Cymru. Lluniwyd y canllaw i roi trosolwg o'r ffordd y mae myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y broses adolygu, ac i helpu'r myfyrwyr i baratoi ar gyfer ymwneud â phob rhan o'r dull adolygu, mewn partneriaeth â'r darparwyr.

Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â'r dulliau adolygu ansawdd a ddefnyddir yng Nghymru, gan gynnwys y ddau ddull Adolygiad Gwella Ansawdd ac Adolygiad Ansawdd Porth (Cymru) a gafodd eu diwygio'n ddiweddar.

Mae'n cynnwys cyngor ynglŷn â sut i ddatblygu cyflwyniad y myfyrwyr a chefnogi'r myfyrwyr i ymgysylltu â'r timau adolygu yn ystod eu hymweliadau. Mae hefyd yn canolbwyntio ar y rolau y mae'r myfyrwyr yn eu chwarae yn y prosesau hyn, cyfrifoldebau'r myfyrwyr, a'r ffyrdd y gallant gyfranogi'n llawn yn y broses adolygu.

Mae'r canllaw'n pwysleisio'r rôl hanfodol y mae myfyrwyr yn ei chwarae yn y prosesau o asesu ansawdd darpariaeth addysg uwch ac mae'n amlinellu'r camau allweddol yng nghyfranogaeth y myfyrwyr mewn prosesau adolygu, yn ogystal â darparu rhestr ddefnyddiol o'r termau mwyaf cyffredin a ddefnyddir ym maes sicrhau a gwella ansawdd.

Mae'n cynnwys cyngor am fformatau posibl i gyflwyniadau'r myfyrwyr i'r adolygiadau - sy'n gallu cynnwys fideos a phodlediadau - a rhestr wirio gynhwysfawr o'r gweithgareddau allweddol y mae'r Prif Gynrychiolwyr Myfyrwyr yn cymryd rhan ynddyn nhw yn ystod y broses adolygu a'r gwaith o baratoi ar gyfer yr ymweliadau adolygu.

Mae'n ychwanegu elfen hanfodol at restrau darllen pob myfyriwr - ac unrhyw un sy'n cefnogi myfyrwyr - a fydd yn cymryd rhan mewn prosesau adolygu ansawdd yng Nghymru.