Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Rhagfyr 2021


Gwella sgiliau cyflogadwyedd trwy’r Gymraeg a goresgyn diffyg hyder ymysg dysgwyr





Author



Huw Swayne

Pennaeth Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr (Cyfadran y Diwydiannau Creadigol) 

Brifysgol De Cymru

 

 

 

Sian Harris

Uwch Ddarlithydd Cyflogadwyedd Cymraeg

Brifysgol De Cymru

 

 

 

Cyhoeddodd QAA Cymru alwad am fynegiadau o ddiddordeb ar gyfer Prosiectau Gwella Cydweithredol ym mis Mawrth 2021, yn benodol i gynorthwyo gwelliannau a goresgyn heriau yn sector Addysg Uwch Cymru. Un o'r cynigion llwyddiannus oedd prosiect o'r enw 'Menter Cyflogadwyedd Cyfrwng Cymraeg'. Mae arweinydd y prosiect Huw Swayne, Pennaeth Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr (Cyfadran y Diwydiannau Creadigol) a Siân Harris, Uwch Ddarlithydd Cyflogadwyedd Cymraeg, o Brifysgol De Cymru, yn dweud mwy wrthym am y prosiect yn y blog hwn.

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, darparodd Prifysgol De Cymru (trwy brosiect a gyllidwyd gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) set o fodiwlau cyflogadwyedd Cymraeg i fyfyrwyr israddedig ar draws Cyfadran y Diwydiannau Creadigol.  Nod cyffredinol y modiwlau yw annog myfyrwyr sydd wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg neu sydd wedi dysgu Cymraeg i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg tra yn y Brifysgol, gyda’r bwriad o ychwanegu gwerth at eu CV ac yn y pendraw at eu gweithleoedd.  Roedd y canlyniadau’n dda ac yn barod mae’r myfyrwyr a oedd wedi cwblhau’r modiwlau wedi bod yn defnyddio’r Gymraeg mewn interniaethau a swyddi.

Mae gan y Brifysgol nifer o golegau partner ac mae’r prosiect QAA penodol hwn yn archwilio’r potensial i gynnig y modiwlau cyflogadwyedd Cymraeg i’w myfyrwyr AU.  Dewiswyd Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent a'r Coleg Merthyr Tudful i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu a darparu adnoddau a fydd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth iaith ymysg myfyrwyr Cymraeg a di-Gymraeg a hefyd hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil cyflogadwyedd gwerthfawr i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Un o heriau cyffredin prosiectau sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg yw bod clystyrau bach o siaradwyr Cymraeg ar wasgar dros ardal ddaearyddol eang.  Trwy gydol y ddau brosiect hyn, mae gweithio ar-lein wedi bod yn gyffredin ac mae hyn wedi helpu i hwyluso cyfarfodydd staff a sesiynau myfyrwyr.  Her arall yw diffyg hyder ymysg llawer o ddarlithwyr a myfyrwyr i adnabod eu hunain fel siaradwyr Cymraeg ynghyd â’u cam-gred, dwfn ‘Dyw ’Nghymraeg i ddim yn ddigon da’.  Mae’r prosiectau hyn yn mynd i’r afael â’r rhwystr hwn yn uniongyrchol a bydd ei oresgyn ar lefel genedlaethol yn allweddol i Lywodraeth Cymru gyrraedd  ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r prosiect hwn yn dod â llawer o fuddion i fyfyrwyr, gan gynnwys:

  • Y cyfle i gynnal ac ymarfer sgiliau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)
  • Pwysleisio gwerth y Gymraeg fel sgil gystadleuol a mantais ar gyfer cyfleoedd am gyflogadwyedd yn y dyfodol
  • Gwneud yn siŵr bod cysylltiadau â Chymraeg yn y gweithle yn glir a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
  • Annog parhad y rhwydweithiau Cymraeg eu hiaith anffurfiol sy’n bodoli eisoes a’r rhai newydd.

Mae yna fanteision hefyd i'r sector, yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys:

  • Cynhyrchu astudiaeth achos i annog y defnydd o’r Gymraeg yn y cwricwlwm ac yn gymdeithasol, nad yw'n gysylltiedig yn benodol â phwnc.
  • Rhannu dull a allai fod o fudd i ieithoedd lleiafrifol eraill yn y DU a thu hwnt.

Mae adborth gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn aml yn awgrymu bod myfyrwyr yn brin o hyder wrth astudio eu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae'r prosiect hwn yn ceisio mynd i'r afael â’r diffyg hyder yma ac yn annog myfyrwyr i gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn gynharach yn eu taith trwy’r brifysgol. Mae addysg wedi'i nodi fel sbardun allweddol yn strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, gyda'r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, felly mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â rhwystrau yn uniongyrchol ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y strategaeth genedlaethol hon.