Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd bellach ar gael yn Gymraeg
Dyddiad: | Medi 19 - 2024 |
---|
Mae QAA wedi comisiynu a chynhyrchu'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn yr Ardal Addysg Uwch Ewropeaidd – a elwir hefyd yn Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd neu ESG.
Mae hwn wedi'i gyhoeddi ar wefan y Gymdeithas Ewropeaidd er Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (ENQA), ochr-yn-ochr â chyfieithiadau o'r ESG mewn bron i 30 o wahanol ieithoedd - o’r Albaneg i’r Wcreineg.
Mae'r ESG yn disgrifio set o egwyddorion arweiniol ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella addysg uwch. Mae'n eiddo i randdeiliaid sector yr Ardal Addysg Uwch Ewropeaidd (EHEA). Arweiniwyd datblygiad y canllawiau gan ENQA, mewn partneriaeth â'r Gofrestr Sicrhau Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg Uwch (EQAR) a sefydliadau pwysig eraill yn y sector, gan gynnwys Cymdeithas y Prifysgolion Ewropeaidd, Undeb y Myfyrwyr Ewropeaidd ac EURASHE, y gymdeithas Ewropeaidd sy'n hyrwyddo addysg uwch gymhwysol.
Mabwysiadwyd yr ESG yn ffurfiol gan Weinidogion sy’n gyfrifol am addysg uwch mewn gwledydd o fewn yr EHEA yn 2005, a chytunwyd ar argraffiad diwygiedig a’i gyhoeddi yn 2015.
Mae QAA Cymru yn defnyddio'r ESG fel cyfeirbwynt rheoleiddiol allweddol sydd, ochr-yn-ochr â Chôd Ansawdd y DU, yn sail i'r Adolygiad Gwella Ansawdd - sef y dull a ddefnyddir gan QAA Cymru i adolygu darparwyr addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Mae Côd Ansawdd y DU, sydd hefyd wedi’i gyhoeddi yn Gymraeg, wedi’i alinio â'r ESG yn ogystal. Mae'r aliniad hwn yn helpu darparwyr i gynllunio a siapio eu fframweithiau ansawdd a safonau’n unol â safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae QAA wedi cyfieithu pob rhan o'r ESG am y tro cyntaf er mwyn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o rôl bwysig y Gymraeg mewn addysg uwch yng Nghymru, i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaeth y corff cyllido a rheoleiddio Medr o hyrwyddo addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg.
'Fel corff sy'n gweithredu er lles y cyhoedd yng Nghymru, mae gennym ymrwymiad cryf i'r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn hybu'r defnydd o'r Gymraeg,' eglurodd Holly Thomas, Arbenigwr Ansawdd a Gwelliant gyda QAA Cymru. ‘Gobeithiwn y bydd hyn nid yn unig yn helpu siaradwyr Cymraeg i ddeall a gwerthfawrogi disgwyliadau a gofynion prosesau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, a’r asiantaethau sicrhau ansawdd eu hunain, ond y bydd hefyd yn cefnogi cydnabyddiaeth, hyrwyddiad a gwerthfawrogiad ehangach o’r Gymraeg.'