QAA yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o'r adolygiad Prentisiaethau Gradd yng Nghymru
Dyddiad: | Hydref 5 - 2021 |
---|
Mae QAA wedi rhannu rhai o ganfyddiadau allweddol yr adolygiad o Brentisiaethau Gradd a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng Mawrth a Mai 2021, ac roedd yn canolbwyntio ar brentisiaethau gradd a ariennir gan CCAUC mewn tri maes pwnc a flaenoriaethwyd, wedi’u cyflwyno ar draws wyth o brif ddarparwyr yng Nghymru. Diben yr adolygiad oedd dynodi elfennau o arfer da a meysydd i'w gwella ym mhob un o’r darparwyr hyn, ynghyd â gwneud argymhellion ar gyfer cyflwyno prentisiaethau gradd yng Nghymru yn y dyfodol.
Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar bum maes:
- Cynllunio a datblygu rhaglenni
- Dulliau ar gyfer cyflwyno rhaglenni
- Dysgu ac addysgu
- Cefnogi cyflawniad prentisiaid
- Asesiad
Mae’r canlynol ymhlith yr argymhellion allweddol a wnaed yn yr adroddiad: dylid rhoi cydnabyddiaeth lawn i natur unigryw Prentisiaethau Gradd, a dylid darparu deunyddiau cymorth ac arweiniad i brentisiaid sydd wedi'u teilwra’n arbennig ar gyfer natur benodol y ddarpariaeth a'r modd y caiff cyrsiau eu cyflwyno.
Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd arfer da ar draws y sector, gan gynnwys lefel yr ymgysylltu â chyflogwyr wrth gynllunio a gweithredu cyfleoedd dysgu yn y gweithle, yn ogystal â pharodrwydd darparwyr i ymateb er mwyn sicrhau parhad rhaglenni prentisiaeth yn ystod y pandemig COVID-19.
Arweiniodd yr adolygiad hefyd at adroddiad na chyhoeddwyd ar gyfer pob prif ddarparydd, a rhannwyd y rhain gyda CCAUC.
Meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr QAA, Alastair Delaney: Mae'r adroddiad hwn yn nodi meysydd penodol o arfer da, ynghyd â chyfleoedd i wella ar draws y ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau gradd a ariennir gan CCAUC yng Nghymru. Roedd QAA yn falch iawn o’r cyfle i gynnal yr adolygiad hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag CCAUC a sector addysg uwch Cymru i weithredu'r argymhellion o'r adroddiad, er mwyn gwella profiad academaidd prentisiaid gradd yng Nghymru.'
Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: 'Gan mai ni, y rheolydd addysg uwch, sy’n gweinyddu'r gronfa ar gyfer prentisiaethau gradd, gall cyflogwyr fod yn hyderus y bydd prentisiaethau gradd yn destun yr un sicrwydd ansawdd trwyadl ag unrhyw ddarpariaeth addysg uwch arall yng Nghymru. Dyma pam y comisiynwyd yr adroddiad.
‘Gall canfyddiadau’r adolygiad ein calonogi bod darparwyr a phartneriaid, ar y cyfan, wir yn deall sut i ddarparu prentisiaeth gradd. Fel ychwanegiadau eithaf diweddar i bortffolio addysg uwch Cymru, mae'r adroddiad yn darparu adborth adeiladol ar gyfer darparwyr i wella profiad prentisiaid gradd yn gyffredinol.’
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan QAA. Gallwch hefyd gael gafael ar wybodaeth bellach am yr Adolygiad Prentisiaethau Gradd yno.