QAA yn lansio ymgynghoriad ar lawlyfr ar gyfer yr adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru
Dyddiad: | Awst 13 - 2020 |
---|
Heddiw mae QAA wedi lansio’r ymgynghoriad ar lawlyfr ar gyfer yr adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2020-21. Mae QAA wedi cael eu comisiynu i gynnal yr adolygiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae'r adolygiad yn ymwneud â Phrentisiaethau Gradd a ariennir trwy CCAUC yn unig, sef y rhai sydd wedi bod ar gael fel rhan o gynllun peilot ers 2018-19, gan gwmpasu tri maes blaenoriaeth: Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch.
Cynlluniwyd yr adolygiad o Brentisiaethau Gradd i fod yn adolygiad datblygiadol sy'n canolbwyntio ar sut mae darparwyr addysg uwch yn cyflwyno’r rhaglen, gan gynnwys dysgu yn y gweithle. Un o nodweddion allweddol yr adolygiad yw'r defnydd o Ddatganiad Nodweddion ar gyfer Addysg Uwch mewn Prentisiaethau QAA. Bydd yr adolygiad yn arwain at adroddiad na chyhoeddir ar gyfer pob prif ddarparydd, a gaiff ei rannu gyda CCAUC. Caiff adroddiad ei gyhoeddi ar gyfer y sector cyfan, a fydd yn darparu crynodeb dienw o'r ddarpariaeth a'r canfyddiadau ar gyfer yr holl adolygiadau, yn ogystal â gwneud argymhellion ar gyfer cyflwyno rhaglenni prentisiaeth yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad hwn yn ategu gwerthusiad Llywodraeth Cymru o gynllun peilot Prentisiaethau Gradd CCAUC.
Meddai Alastair Delaney, Cyfarwyddwr QAA yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon: 'Bydd y darn pwysig hwn o waith yn asesu’r buddion a deilliannau a fwriadwyd yn sgil rhaglenni Prentisiaeth Gradd yn y tri maes a flaenoriaethwyd ar gyfer darparwyr, cyflogwyr a myfyrwyr. Bydd yr adolygiad yn cynorthwyo'r sector i rannu arfer da, dysgu a meysydd i'w datblygu, yn ogystal â gwella gwerth profiad dysgu myfyrwyr a gwerth prentisiaethau i gyflogwyr.'
Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: 'Rydym yn croesawu lansiad yr ymgynghoriad hwn ar y llawlyfr ar gyfer adolygiad datblygiadol o’n rhaglen beilot prentisiaethau gradd. Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu dangos ansawdd prentisiaethau gradd, a bydd y gwaith hwn gan QAA yn sail i hyn. Bydd y deilliannau hefyd yn allweddol i ddatblygiadau yn y dyfodol o ran prentisiaethau gradd yng Nghymru.'
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ganol dydd, ddydd Llun 14 Medi 2020. Rhaid cyflwyno pob ymateb trwy ein harolwg ar-lein.
Gan fod angen cwblhau'r arolwg ar un ymweliad, rydym wedi darparu cwestiynau'r ymgynghoriad mewn dogfen ar wahân fel y gallwch chi gyfeirio atynt.