QAA yn cyhoeddi Datganiad Meincnodi Pwnc ar gyfer Cymraeg
Dyddiad: | Rhagfyr 5 - 2019 |
---|
I gyd-daro â Diwrnod Hawliau'r Gymraeg sy'n cael ei gynnal am y tro cyntaf, mae QAA wedi cyhoeddi ei Datganiad Meincnodi Pwnc newydd ar gyfer Cymraeg.
Mae'r Datganiad newydd yn diffinio'r safonau academaidd y gellir eu disgwyl gan un sydd wedi graddio mewn Cymraeg - o ran yr hyn y gallai ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar derfyn ei astudiaethau - ac mae'n disgrifio natur y pwnc.
Mae Cymraeg yn bwnc academaidd eang ac amrywiol sy'n cwmpasu'r iaith a'i llenyddiaeth, o'i dechreuadau hanesyddol hyd at y presennol, dulliau o'i defnyddio a'i hyrwyddo mewn cyd-destun cyfoes, yn ogystal â sicrhau ei ffyniant yn y dyfodol.
Mae'r cyfraniad a wna'r pwnc at wireddu'r dyhead o greu Cymru ddwyieithog yn un canolog. Mae'r data diweddar am hyn yn anogol: yn ôl canlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, roedd bron i 30% o bobl yng Nghymru (891,000 o bobl) 3 oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu'n raddol bob blwyddyn ers Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007.
Y fersiwn ddiweddaraf gan QAA o'r Datganiad Meincnodi Pwnc yw'r pedwerydd argraffiad ohono, ar ôl cyhoeddi'r Datganiad cyntaf yn 2002 a'i adolygu a'i ddiwygio yn 2007 a 2015. Ni chafwyd unrhyw newidiadau i gynnwys y Datganiad sy'n berthnasol i'r pwnc, ond mae wedi'i ddiwygio i roi ystyriaeth i newidiadau i God Ansawdd Addysg Uwch y DU (2018), yn ogystal â newidiadau bychain eraill yn y sector.
Mae'r Datganiad wedi'i gyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ar ein gwefan, ac mae ar gael drwy'r dudalen Chwilio am Ddatganiadau Meincnodi Pwnc.
Hefyd, yn ddiweddar mae QAA wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i ddarparwyr addysg uwch ar arfer effeithiol mewn arholi ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddogfen hon wedi'i chyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ar dudalen Ein Gwaith yng Nghymru ar wefan QAA.