Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi canllawiau am Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol

Dyddiad: Gorffennaf 12 - 2024

Ar ôl gwneud proses ymgynghori eang y gwanwyn hwn, mae QAA wedi cyhoeddi canllawiau am y dull newydd o wneud Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol (Adolygiad GorA), ochr yn ochr ag ymatebion QAA i ganlyniadau'r ymgynghoriad.

Bydd y dull Adolygiad GorA newydd yn cael ei ddefnyddio i adolygu a monitro darparwyr preifat sy'n cynnig cyrsiau addysg uwch yn y DU ond nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus yn flynyddol gan unrhyw un o'r cyrff sy'n cyllido neu'n rheoleiddio addysg uwch yn y DU. Mae'n cymryd lle'r pedwar dull ar wahân a ddefnyddiwyd gynt.

Mae'r Canllawiau i Ddarparwyr yn esbonio cefndir, swyddogaeth ac elfennau'r dull Adolygiad GorA, ac yn nodi'n fanwl beth yw elfennau'r prosesau adolygu a monitro.

Meddai Adam Surtees, Rheolwr Gwasanaethau Asesu QAA: "Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y broses hon o ddatblygu'r dull adolygu newydd hwn sy'n gadarn, yn gyfartal ac yn gynhwysfawr."

Mae'r Canllawiau i Ddarparwyr am Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol, ochr yn ochr â dadansoddiad cysylltiedig o ymatebion i'r ymgynghoriad a phenderfyniadau, ar gael ar dudalen 'Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol' gwefan QAA.