Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi atodiad i Lawlyfr yr Adolygiad Gwelliant Ansawdd ar gyfer 2021-22

Dyddiad: Ebrill 29 - 2021

Mae QAA wedi cyhoeddi atodiad i gyd-fynd â Llawlyfr yr Adolygiad Gwelliant Ansawdd (AGA) yn dilyn y cyhoeddiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar 15 Chwefror 2021, yn manylu ar y newidiadau i ofynion adolygiadau sicrhau ansawdd allanol mewn ymateb i'r pandemig COVID-19 (Cylchlythyr W21/05HE). Bydd yr AGA yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd yn unig, a bydd darparwyr sy'n mynd trwy adolygiadau yn 2021-22 yn cael cyfle i ymgysylltu â QAA ar wahân yngylch gwella ansawdd.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau statudol CCAUC - i fod yn sicr o ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, darparwyr rheoledig. Felly, ar gyfer 2021-22 yn unig, ni fydd unrhyw adroddiadau ynghylch deilliannau nac argymhellion o ran gwella ansawdd profiad dysgu myfyrwyr, nac ynghylch dysgu ac addysgu. Mae gwella ansawdd yn parhau i fod yn rhan allweddol o Fframwaith Asesu Ansawdd CCAUC ac, er y bydd gwelliant yn parhau i fod yn rhan o ymgysylltiad rheolaidd QAA â darparwyr sydd wedi’u neilltuo ar gyfer AGA yn 2021-22, ni fydd y gweithgaredd hwn yn arwain at gyhoeddi unrhyw ddeilliannau na dyfarniadau. Bydd QAA yn gweithio gyda'r darparwyr hyn i gynnal eu hymgysylltiad â gweithgareddau gwella ansawdd yng Nghymru, a'u cyfraniad atynt.

Mae'r atodiad yn berthnasol i bob AGA sydd wedi’u trefnu ar gyfer 2021-22, ac mae’n esbonio'r addasiadau i'r dull ar gyfer eu cynnal. Mae rhai o'r newidiadau yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer ymweliad byrrach, timau adolygu llai (lle bo hynny'n bosibl) a chyfarfodydd symlach.

Meddai Alastair Delaney, Cyfarwyddwr QAA ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon: 'Mae QAA wedi gweithio gyda CCAUC a'r sector i ddeall ymhellach effaith barhaus y pandemig COVID-19. Mae'r atodiad yn nodi sut y bydd darparwyr yn cael eu hannog i ganolbwyntio eu paratoadau ar gyfer adolygiad yn effeithiol a sut y bydd QAA yn rhoi cymorth iddynt i leihau baich yr adolygiad. Yn ogystal, rydym wedi bod yn datblygu ein gweithgareddau gwelliant ar gyfer ein haelodau yng Nghymru; byd hyn yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwella ansawdd y tu allan i'r adolygiad. Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i holl Aelodau QAA yng Nghymru, p’un a ydyn nhw wedi ymgymryd ag AGA neu'n destun yr adolygiad hwn.'

Dylid darllen yr atodiad ar y cyd â Llawlyfr yr AGA. Mae QAA yn cyfathrebu'n rheolaidd â darparwyr sydd i fod i gael eu hadolygu yn 2021-22, a bydd yn cynnal sesiwn ragwybodaeth ar gyfer darparwyr ddydd Iau 27 Mai, 14:00-15:30, trwy Zoom. Mae’r digwyddiad briffio hwn yn agored i Hwyluswyr Adolygiadau, Prif Gynrychiolwyr Myfyrwyr ac unrhyw staff a myfyrwyr eraill sy'n ymwneud â pharatoi ar gyfer yr adolygiad.