Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA Cymru yn galw am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Prosiect Gwelliant Cydweithredol newydd

Dyddiad: Hydref 17 - 2024

Mae QAA Cymru wedi lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb am gyllido ar gyfer Prosiect Gwelliant Cydweithredol (PGC) newydd, a ariennir gan Medr trwy drefniadau grant gyda QAA.

Mae PGC yn brosiectau lle mae grwpiau o ddarparwyr yn cydweithio ar faterion o ddiddordeb i'r naill a’r llall, sydd â'r potensial i ddod â gwerth i’r sector cyfan unwaith y byddant wedi'u cwblhau. Eu nod yw hyrwyddo dulliau cydweithredol o wella ansawdd mewn dysgu, addysgu, asesu a phrofiad y dysgwr.

Mae grwpiau prosiect yn adrodd ar gynnydd i QAA Cymru a disgwylir iddynt rannu'r hyn a ddysgwyd o'u gweithgaredd. Mae prosiectau’n derbyn cefnogaeth gan QAA Cymru, trwy arian grant Medr.

"Dyma'n pedwerydd galwad PGC blynyddol i Gymru," eglurodd Holly Thomas o QAA Cymru. “Rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn gweithio gyda Medr i gefnogi’r gwaith hwn. Rydym wedi gweld rhai prosiectau gwych ers i ni lansio’r cynllun yn 2021 – ac edrychwn ymlaen at gynnig cymorth i’r sector gydweithio mewn meysydd blaenoriaeth.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am PGC blaenorol QAA Cymru ar ein gwefan:

Gallwch chi lawrlwytho'r ffurflen datganiadau o ddiddordeb oddi ar ein gwefan. Dylid dychwelyd y ffurflenni hyn erbyn 31 Ionawr 2025. Croesewir ymatebion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ym mis Chwefror 2025.

Galwad am Fynegiant o Ddiddordeb: Prosiectau Gwelliant Cydweithredol QAA Cymru 2024-25 a ariennir gan Medr

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hyd 2024

Ffurflen Gais ar gyfer Mynegiant o Ddiddordeb: Prosiectau Gwelliant Cydweithredol QAA Cymru 2024-25 a ariennir gan Medr

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hyd 2024