QAA Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf ar ymwneud â'r Gymraeg
Dyddiad: | Ionawr 23 - 2023 |
---|
Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad blynyddol diweddaraf ar eu hymwneud â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22.
Mae’r adroddiad yn dangos sut yr ydym yn cydymffurfio â’n hymrwymiadau i Safonau’r Gymraeg (Rheoliadau Rhif 2) 2016 o ran darparu gwasanaethau, gweithrediadau, llunio polisïau a chadw cofnodion, yn ogystal â’n hymrwymiad ehangach i’r Gymraeg a’i rôl mewn addysg uwch yng Nghymru.
Mae ymrwymiad eang QAA i'r Gymraeg yn cynnwys Gweithgor Iaith Gymraeg traws-sefydliadol i’r pwrpas penodol hwn. Mae'r grŵp yn goruchwylio Safonau'r Gymraeg yn QAA ac yn datblygu dulliau gweithredu ac arfer gorau er budd y sefydliad a siaradwyr Cymraeg sy'n ymgysylltu â ni.
Wrth wneud sylw ar gyhoeddi’r adroddiad, meddai Alastair Delaney, Dirprwy Brif Weithredwr QAA:
“Rydyn ni'n falch o'r cynnydd rydyn ni'n parhau i'w wneud i sicrhau bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud mor hygyrch a chynhwysol â phosib i siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn gonglfaen i’n gwaith datblygu yng Nghymru a’n hymrwymiad i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein deunyddiau QAA Cymru ac yn chwilio am gyfleoedd i ymestyn ein hymrwymiadau i’r Gymraeg ymhellach yn y flwyddyn i ddod.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ar wefan QAA.