Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf ar ymwneud â'r Gymraeg

Dyddiad: Ionawr 22 - 2025

Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar ymgysylltu â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-24.

Mae'r adroddiad yn nodi sut mae QAA yn cyflawni ein hymrwymiadau i Safonau'r Gymraeg (rheoliadau Rhif 2) 2016 o ran darparu gwasanaethau, gweithrediadau, llunio polisïau a chadw cofnodion. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad ehangach i’r Gymraeg a’i rôl mewn addysg uwch yng Nghymru.

Mae ymrwymiad QAA i'r Gymraeg yn cynnwys hyfforddiant ar Safonau'r Gymraeg ac Ymwybyddiaeth i staff a'n Gweithgor Iaith Gymraeg traws-sefydliadol.

Yn ystod 2023-24, rydym wedi parhau i ddatblygu’r cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt ar gyfer bodloni’r safonau ar draws y sefydliad, gan barhau i wneud cynnydd a nodi meysydd i’w datblygu, gan gynnwys meysydd a amlygwyd gan ein Harchwiliad y Gymraeg ym mis Mawrth 2023.

Mae QAA wedi parhau i ymwneud â gwaith Comisiynydd y Gymraeg, gan gymryd rhan yn arolwg canfyddiad rhanddeiliaid Comisiynydd y Gymraeg ac ymgynghoriadau ar ddeilliannau rheoleiddio a safonau llunio polisi.

Yn ystod y cyfnod hwn, buom yn cyfranogi mewn digwyddiadau a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, a chymerwyd rhan yn nigwyddiad Llywodraeth Cymru yn archwilio ‘Arloesedd ac Arfer Da mewn Cynllunio a Pholisi Ieithyddol’ ym mis Chwefror 2024.

Cymerodd QAA ran hefyd yn yr Ymgyrch 'Defnyddiwch Eich Cymraeg' rhwng 27ain Tachwedd a 11eg Rhagfyr 2023, gan gyhoeddi cyfres o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo rhai o’n gweithgareddau a’n digwyddiadau yng Nghymru.

Hefyd cychwynnodd QAA Cymru brosiect yn archwilio effaith datblygiad proffesiynol staff ar ymarfer addysgu a dysgu myfyrwyr. Roedd hyn yn cynnwys tair astudiaeth achos yn canolbwyntio ar y Gymraeg: 'Sylfaenol, Gwell, Gorau': Cefnogi darpariaeth ddwyieithog mewn AB (Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion); Gwella hyder a chymhwysedd yn y Gymraeg trwy ddarpariaeth ddwyieithog (Coleg Pen-y-bont ar Ogwr); a 'Cymraeg Gwaith+ mewn addysg uwch' (Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Meddai David Gale, Pennaeth QAA Cymru a Gogledd Iwerddon: “Rydym yn falch o’n cynnydd wrth sicrhau bod ein gweithgareddau mor hygyrch â phosibl i siaradwyr Cymraeg. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyfleoedd yn y Gymraeg, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector yng Nghymru i gyflawni hyn."

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 ar ymgysylltiad QAA â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ion 2025