Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Prifysgolion Cymru’n dangos eu hymrwymiad i uniondeb academaidd trwy arwyddo Siarter QAA

Dyddiad: Awst 19 - 2021

Mae pob prifysgol yng Nghymru bellach wedi arwyddo i ymuno â Siarter Uniondeb Academaidd QAA. Trwy arwyddo, mae’r prifysgolion wedi dangos eu hymrwymiad i amddiffyn uniondeb academaidd a brwydro yn erbyn y bygythiad a achosir gan felinau traethawd a mathau eraill o gamymddwyn academaidd. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i sicrhau cefnogaeth unfrydol i'r Siarter Uniondeb Academaidd ymhlith ei phrifysgolion.

Datblygwyd y Siarter gyda chymorth Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU, ac fe’i lansiwyd yn ffurfiol yn Ebrill 2021 Mae'n nodi saith egwyddor y mae’r sawl sy’n ei arwyddo’n ymrwymo i'w gweithredu yn eu sefydliadau, ac mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gefnogol iddi.

Mae camymddwyn academaidd yn fygythiad cynyddol ar draws y byd, ac mae'n peryglu enw da sector addysg uwch y DU. Mae’n digwydd ar sawl ffurf, gan gynnwys y defnydd o felinau traethawd a gradd, llên-ladrad, cydgynllwynio rhwng myfyrwyr, a thystysgrifau cymhwyster ffug neu wedi’u newid.

Trwy ymuno â'r Siarter, mae prifysgolion a cholegau yn dangos ymrwymiad ar draws y sector i hyrwyddo a gwarchod uniondeb academaidd. Bydd y saith egwyddor yn y Siarter yn helpu darparwyr i ddatblygu eu polisïau a'u harferion eu hunain, er mwyn sicrhau bod cymhwyster pob myfyriwr yn ddilys, bod modd ei wirio a’i fod yn cael ei barchu.

Dyma nhw’r saith egwyddor:

  • Mae pob aelod o gymuned darparydd addysg uwch yn gyfrifol am wreiddio a chynnal uniondeb academaidd.
  • Cymryd agwedd gyfannol 'cymuned gyfan', gan gwmpasu'r holl ddarpariaeth.
  • Cydweithio fel sector.
  • Ymgysylltu â myfyrwyr a'u grymuso.
  • Grymuso ac ymgysylltu â staff.
  • Cynnal polisïau ac arferion sefydliadol cyson ac effeithiol.
  • Cymryd cyfrifoldeb fel sefydliadau hunan-reolus am hyrwyddo a chynnal ansawdd a chywirdeb y ddarpariaeth, a sicrhau safonau academaidd y cymwysterau a ddyfernir.

Meddai Alastair Delaney, Cyfarwyddwr QAA yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon: 'Mae'n galonogol iawn gweld yr ymrwymiad unigol a chyfunol i hyrwyddo a diogelu uniondeb academaidd ymhlith prifysgolion Cymru. Hyd yn hyn, mae 171 o brifysgolion a cholegau ledled y DU wedi ymuno â'r Siarter. Bydd QAA yn parhau i weithio gyda sefydliadau addysg uwch ledled y DU i fynd i'r afael â'r risgiau a achosir gan gamymddwyn academaidd, ac i gefnogi datblygiad deddfwriaeth i frwydro yn erbyn melinau traethawd.'

Meddai Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllido, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC): 'Rydym yn croesawu'r newyddion bod pob un o'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru bellach wedi ymuno â'r Siarter Uniondeb Academaidd. Mae hyn yn dangos pa mor ddifrifol yw ein sector AU ynglŷn â chynnal, nid yn unig ei safonau, ond hefyd ei enw da. Wrth i brifysgolion symud tuag at y flwyddyn academaidd newydd a chroesawu myfyrwyr newydd a’r rhai sy'n dychwelyd, mae'n hanfodol bod y gymuned gyfan wedi'i grymuso i ddeall a chynnal uniondeb academaidd. Felly, mae CCAUC wedi gofyn i QAA gynnig cefnogaeth i Rwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru, sy'n eiddo i'r sector, er mwyn galluogi sefydliadau i gydweithredu a rhannu arfer gorau.'

Ariennir y rhwydwaith newydd gan CCAUC, a bydd yn cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Michael Draper o Brifysgol Abertawe a Dr Mike Reddy o Brifysgol De Cymru, sydd ill dau yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU. Bydd QAA yn cynorthwyo â sefydlu'r rhwydwaith newydd ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru, gan weithio gyda chyd-gadeiryddion y rhwydwaith i ganfod aelodau ar gyfer y grŵp ac i ddarparu cefnogaeth ar gyfer cyfarfodydd.

Meddai’r Athro Michael Draper a Dr Mike Reddy: Mae sefydlu Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru gan CCAUC, gyda chefnogaeth QAA, yn dangos ymrwymiad sector addysg uwch Cymru i wella uniondeb mewn asesiadau a dyfarniadau, gan sicrhau eu gwerth parhaus i fyfyrwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.

'Ar adeg pan mae asesiadau a dyfarniadau sefydliadol yn wynebu heriau sylweddol, bydd y rhwydwaith yn cynorthwyo cydweithrediad a lledaenu arfer gorau â sicrwydd ansawdd ar draws system addysg Cymru, gan gynnwys hyrwyddo egwyddorion Siarter Uniondeb Academaidd amserol a pherthnasol QAA ar gyfer gwella’r sector. Bydd y rhwydwaith yn cael ei arwain gan gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, unigolion sydd â phrofiad academaidd ac ymarferol helaeth o uniondeb academaidd ac asesu.

'Ynghyd â'r newyddion cadarnhaol bod holl brifysgolion Cymru wedi ymuno â'r Siarter Uniondeb Academaidd, mae'n amlwg bod Cymru yn arwain y drafodaeth ynghylch esblygiad a dilysiad asesu yn yr 21ain ganrif.'

Gall sefydliadau addysg uwch y DU weld ac ymuno â’r Siarter Uniondeb Academaidd ar dudalen we bwrpasol QAA.