Prifysgol Bangor yn cwblhau Adolygiad Gwella Ansawdd
Dyddiad: | Chwefror 28 - 2025 |
---|
Mae Prifysgol Bangor wedi cwblhau ei Hadolygiad Gwella Ansawdd yn llwyddiannus.
Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884, a heddiw mae’n cynnwys tri choleg: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg, a’r Coleg Meddygaeth ac Iechyd. Yn y flwyddyn academaidd 2023-24, roedd 13,738 o fyfyrwyr wedi cofrestru ym Mhrifysgol Bangor.
Adolygiad Gwella Ansawdd yw'r dull a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) i adolygu darparwyr addysg uwch Cymru fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Mae Adolygiad Gwella Ansawdd yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cynorthwyo â gwella ansawdd, gan roi sicrwydd i gyrff llywodraethu, myfyrwyr a'r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Medr, Comisiwn Cymru dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Cynhaliwyd ymweliad adolygu Prifysgol Bangor ar 3-5 Rhagfyr 2024. Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o bedwar adolygydd annibynnol, gan gynnwys myfyriwr adolygydd.
Daeth y tîm i'r casgliad bod Prifysgol Bangor yn bodloni gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) 1 ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Cadarnhaodd eu hadroddiad fod gan Brifysgol Bangor drefniadau cadarn ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella ansawdd profiad myfyrwyr.
Roedd yr adroddiad ar gyfer yr adolygiad yn rhestru chwe chanmoliaeth a dim argymhellion, ac yn nodi un maes o ddatblygiad parhaus.
Roedd yr adroddiad yn canmol Prifysgol Bangor am y canlynol:
- y berthynas gref rhwng y brifysgol a myfyrwyr
- faint mae'r Gymraeg a dwyieithrwydd wedi'u gwreiddio yn niwylliant y brifysgol
- y cymorth academaidd a bugeiliol helaeth sydd ar gael i fyfyrwyr
- y gwerth sylweddol a roddir ar ddatblygiad staff
- gweithredu'r Fframwaith Cywerthedd Asesu i sicrhau tegwch a chysondeb mewn arferion asesu
- a'r defnydd o ddata i lywio prosesau sicrhau ansawdd, hwyluso cymorth i fyfyrwyr, a thanategu gwelliannau wedi'u targedu.
Nododd yr adroddiad hefyd, fel maes ar gyfer ddatblygiad parhaus, y camau sy'n cael eu cymryd i gryfhau ymagwedd y brifysgol at reoli darpariaeth gydweithredol.
Dywedodd y tîm adolygu hefyd fod agwedd Prifysgol Bangor at welliant yn rhan annatod o'i strategaeth sefydliadol, sy'n amlygu ffocws ar 'Addysg Drawsnewidiol' ac yn pwysleisio ansawdd addysgu, profiad myfyrwyr, dargadwedd myfyrwyr a deilliannau graddedigion.
Meddai’r Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae’r canlyniad rhagorol hwn yn dyst i ymrwymiad diwyro Prifysgol Bangor i ragoriaeth academaidd a llwyddiant myfyrwyr. Mae’n ailgadarnhau bod ein prosesau addysgu, cymorth i fyfyrwyr a sicrhau ansawdd yn bodloni safonau cenedlaethol ac Ewropeaidd, gyda’n chwe chanmoliaeth yn dangos bod Prifysgol Bangor yn mynd y tu hwnt i ddarpariaeth sy’n bodloni safonau i un o ragoriaeth. Rydym yn falch o weld ein hymrwymiad i welliant parhaus a phrofiad y myfyriwr yn cael ei gydnabod mewn ffordd mor arwyddocaol trwy ganlyniadau’r Adolygiad Gwella Ansawdd hwn."