Mae QAA Cymru wedi lansio galwad am gyfraniadau gan
ddarparwyr AB ac AU yng Nghymru, ar gyfer pecyn adnoddau datblygiad
proffesiynol dysgu ac addysgu newydd.
Fel rhan o brosiect a ariennir gan CCAUC, 'Effaith datblygiad proffesiynol
dysgu ac addysgu staff ar wella profiad y myfyriwr / dysgwr a hybu deilliannau
myfyrwyr / dysgwyr', mae QAA yn
chwilio am enghreifftiau cryf o fentrau dysgu proffesiynol sydd wedi cael
effaith gadarnhaol ar ddysgu myfyrwyr.
Croesewir
pob math o ddatblygiad proffesiynol sy'n dangos effaith ar ddeilliannau
myfyrwyr. Gall y rhain amrywio o weithgareddau anffurfiol, byr ac unigol
i enghreifftiau o fentrau datblygu estynedig ar raddfa fwy ar draws cyfadran
neu adran. Croesewir mentrau sydd ar y gweill, cyn belled â gellir dangos
effaith.
Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu
at adnodd newydd pwysig a fydd yn cael ei rannu ar draws y sector a’i arddangos
mewn cynhadledd AU/AB ASA Cymru yn Haf 2024.
Os hoffech gyfrannu, cwblhewch y ffurflen gyflwyno
erbyn 22ain Ionawr 2024. Mae’r ffurflen yn gofyn am grynodeb byr o'r
fenter rydych chi wedi’i dewis, ynghyd â'i heffaith. Bydd cynrychiolydd QAA
wedyn yn cysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol ym mis Chwefror. Bydd yr holl
astudiaethau achos perthnasol yn cael eu cynnwys yn y pecyn adnoddau.