Mae 'trefniadau cadarn' ar gyfer ansawdd ym Mhrifysgol De Cymru, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU
Dyddiad: | Medi 14 - 2022 |
---|
Mae gan Brifysgol De Cymru ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr’, yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Canmolodd yr adolygiad y Brifysgol am ei chyflawniadau yn enwedig wrth ymateb i’r pandemig COVID, ac wrth ymgysylltu ag arweiniad allanol, arbenigedd a rhwydweithiau i lywio rheolaeth safonau academaidd.
Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng y 4ydd a’r 6ed Gorffennaf 2022. Yn gyffredinol, daeth y tîm i’r casgliad fod y Brifysgol yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.
Mae’r ganmoliaeth gan yr adolygwyr yn cynnwys y canlynol:
- Ffocws clir ar nodau strategol ar draws y Brifysgol, a ddatblygwyd ac a weithredir mewn partneriaeth â myfyrwyr, sy'n creu dull cydlynol o wella dysgu, addysgu ac asesu.
- Ymateb pwyllog a gwybodus y Brifysgol i'r pandemig, a fynegwyd yn effeithiol, sydd wedi ei galluogi i leihau'r effaith ar fyfyrwyr a staff a darparu sylfaen gadarnhaol ar gyfer dysgu gweithredol.
- Ymgysylltiad helaeth y Brifysgol ag arweiniad allanol, arbenigedd a rhwydweithiau, sydd wedi llywio eu rheolaeth o safonau academaidd a gwella profiad myfyrwyr yn gadarnhaol.
- Argaeledd a defnydd cynhwysfawr o ddata sydd wedi’i wreiddio mewn prosesau ansawdd, gan alluogi penderfyniadau amserol a gwybodus sy’n gwella profiad myfyrwyr.
Meddai’r Athro Donna Whitehead, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: 'Mae hwn yn ganlyniad gwych ac yn darparu tystiolaeth o ansawdd y dysgu, yr addysgu a’r cymorth a ddarperir gan Brifysgol De Cymru a’n partneriaid i’n dysgwyr.
“Mae’n arbennig o braf cael ein canmol am ein hymateb i’r pandemig. Addasodd pawb yn gyflym ac yn ddyfeisgar i sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i dderbyn addysg a chymorth o ansawdd uchel, gan leihau'r effaith arnynt cyn belled ag y bo modd, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol.'
Nid yw adroddiad QAA yn gwneud unrhyw argymhellion i’r Brifysgol.