Mae 'trefniadau cadarn' ar gyfer ansawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU
Dyddiad: | Gorffennaf 6 - 2022 |
---|
Mae gan Brifysgol Aberystwyth ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr’, yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Canmolodd yr adolygiad gyflawniadau'r Brifysgol mewn sawl maes megis cefnogaeth i addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu partneriaid lleol a rhanbarthol.
Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng 25ain a’r 27ain Ebrill 2022. Yn gyffredinol, daeth y tîm i’r casgliad fod Aberystwyth yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i bod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.
Mae’r ganmoliaeth gan yr adolygwyr yn cynnwys y canlynol:
- Cefnogaeth hygyrch a sefydledig y Brifysgol ar gyfer staff sy'n addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â staff a myfyrwyr sy'n dysgu Cymraeg sy'n annog cyfranogiad ac ymgysylltiad â'r iaith.
- Parodrwydd y Brifysgol i ymateb i anghenion cyflogadwyedd cenedlaethol a rhanbarthol trwy ddatblygu partneriaethau newydd â ffocws ar arloesedd.
- Y perthnasoedd cefnogol a cholegol y mae’r Brifysgol yn eu datblygu gyda’i phartneriaid sy’n eu galluogi i gyfranogi’n gyfartal yn y bartneriaeth.
Meddai’r Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd â chanlyniad yr Adolygiad Gwella Ansawdd, sy’n golygu bod Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn y dyfarniad uchaf sydd ar gael drwy’r broses hon, ynghyd â’r gydnabyddiaeth o ansawdd yr hyn yr ydym yn ei gynnig i fyfyrwyr, o ran ein safonau academaidd a’r profiad ehangach ar gyfer myfyrwyr. Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu’n gadarnhaol iawn ar ein darpariaeth yn gyffredinol, gan gynnwys ein hymagwedd at ymwneud â meysydd newydd sy’n darparu sgiliau y mae mawr eu hangen ar gyfer cyflogaeth, yn ein rhanbarth ein hunain ac mewn llawer o fannau eraill ledled y byd.
“Mae’r clod am yr adroddiad hwn i’w briodoli i waith caled ac ymroddiad staff Prifysgol Aberystwyth, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r corff myfyrwyr, i ddarparu profiad sydd ymhlith y gorau i’n myfyrwyr, ac rydym yn gobeithio y bydd ein graddedigion yn elwa ohono gydol eu hoes a’u gyrfaoedd.”
Mae adroddiad QAA hefyd yn gwneud nifer o argymhellion, gan ofyn i'r Brifysgol wneud y canlynol:
- sicrhau bod y Brifysgol yn goruchwylio nifer y staff a'r myfyrwyr sy'n ymgysylltu â gofynion y system diwtora personol
- gweithredu system sy'n sicrhau goruchwyliaeth sefydliadol ar gyfer cymeradwyo arholwyr allanol at ddibenion dyfarnu graddau ymchwil