Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Swyddfa Myfyrwyr a QAA yn cytuno ar drefniadau ar gyfer asesu ansawdd mewn addysg uwch

Dyddiad: Gorffennaf 19 - 2018

Mae'r Swyddfa Myfyrwyr yn Lloegr a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) wedi nodi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd QAA yn cyflawni'r swyddogaethau asesu ansawdd a safonau yn Lloegr.

Ers 1 Ebrill 2018, y Swyddfa Myfyrwyr yw'r corff sy'n rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr yn unol â Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017. Roedd y Ddeddf yn gofyn bod corff yn cael ei benodi i wneud gwaith asesu ansawdd a safonau i gefnogi proses reoleiddio'r Swyddfa Myfyrwyr. Dynodwyd QAA gan Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg y DU, a daeth hithau hefyd yn weithredol o 1 Ebrill 2018.

Mae cytundeb dynodi, a gyhoeddwyd heddiw, yn amlinellu'r ffordd y bydd QAA yn defnyddio ei harbenigedd i weithio ar ran y Swyddfa Myfyrwyr a sut y bydd yn cael ei dal yn atebol am y ffordd mae'n cyflawni'r swyddogaethau newydd. Mae'n disgrifio rôl QAA mewn:

  • asesu ansawdd a safonau darparwyr addysg uwch
  • darparu sail tystiolaeth i helpu'r Swyddfa Myfyrwyr i benderfynu a yw darparwyr yn bodloni'r gofynion o ran ansawdd ar gyfer cael eu cofrestru
  • rhoi cyngor i hysbysu penderfyniadau'r Swyddfa Myfyrwyr ar bwerau darparwyr i ddyfarnu graddau.

Meddai Nicola Dandridge, Prif Weithredwr y Swyddfa Myfyrwyr:

“Mae'n bleser mawr gennym ein bod wedi cadarnhau'r trefniadau gyda QAA. Mae cyngor dibynadwy am ansawdd a safonau'n hanfodol i'n galluogi i gyflawni ein rôl yn effeithiol fel y corff sy'n rheoleiddio addysg uwch, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda QAA dros y blynyddoedd sy'n dod.”

Meddai Douglas Blackstock, Prif Weithredwr QAA:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r Swyddfa Myfyrwyr i weithredu dulliau arloesol o asesu ansawdd sy'n ystyried risgiau, sy'n briodol i system addysg uwch ddatblygedig sydd ymysg y gorau yn y byd. Fel corff annibynnol y DU sydd â'r cyfrifoldeb am asesu ansawdd a safonau, byddwn yn cyfrannu at system a fydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i gael gafael ar ddarpariaeth addysg uwch o'r radd flaenaf drwy'r byd i gyd, lle bynnag a sut bynnag y maent yn astudio.”

Cyn hir, bydd QAA yn cyhoeddi ymgynghoriad ar y dull newydd o adolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr newydd sy'n ceisio cael eu cofrestru gyda'r Swyddfa Myfyrwyr.

  1. Mae'r gweithgareddau sydd wedi'u hamlinellu yn y cytundeb dynodi rhwng y Swyddfa Myfyrwyr a QAA yn cynnwys:
    • cynllunio a chyflwyno dull o adolygu ansawdd a safonau i asesu a yw darparwr addysg uwch yn bodloni'r gofynion cychwynnol ar gyfer cael cofrestriad
    • cynllunio a chyflwyno dull o adolygu darparwyr addysg uwch mewn perthynas ag achosion gwirioneddol neu debygol o dorri'r gofynion ar gyfer cael cofrestriad
    • cynllunio a chyflwyno dull o adolygu ansawdd a safonau yn rhan o ddull samplo ar hap y Swyddfa Myfyrwyr
    • rhoi cyngor i'r Swyddfa Myfyrwyr ynglŷn ag ymgeiswyr am bwerau newydd neu bwerau llawn i ddyfarnu graddau.
  2. QAA yw'r corff sicrhau ansawdd annibynnol ar gyfer addysg uwch y DU. Mae'n gwmni elusennol ym maes addysg uwch. Mae ei drefniadau llywodraethu wedi'u seilio ar yr egwyddor o gyd-reoleiddio. Mae ei Fwrdd yn cynrychioli pob adran o sector addysg uwch y DU, gan gynnwys y myfyrwyr, ac mae'n cynnwys aelodau annibynnol sy'n dod ag arbenigedd o'r byd diwydiannol, masnachol, ariannol a phroffesiynol.
  3. Y Swyddfa Myfyrwyr yw'r corff annibynnol sy'n rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr. Ein nod yw sicrhau fod pob myfyriwr yn cael profiad addysg uwch boddhaus sy'n cyfoethogi eu bywydau a'u gyrfaoedd.