Llawlyfr diwygiedig wedi'i gyhoeddi ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd yng Nghymru
Dyddiad: | Awst 31 - 2023 |
---|
Comisiynir QAA gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gynnal adolygiadau ansawdd ar gyfer sefydliadau a reoleiddir yng Nghymru. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweithio'n helaeth gyda'r sector addysg uwch yng Nghymru i adolygu a diweddaru'r dull ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) a'r llawlyfr ategol, sy'n manylu ar y broses adolygu ac yn rhoi arweiniad ar sut i baratoi.
Mae'r dull diwygiedig bellach wedi'i gwblhau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym Mai/Mehefin. Bydd yn cael ei roi ar waith o'r flwyddyn academaidd 2023-24 ymlaen. Mae QAA yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at y gwaith pwysig hwn dros y flwyddyn ddiwethaf.
Meddai Cliona O'Neill, Pennaeth Ansawdd a Phrofiad Myfyrwyr yn CCAUC 'Rydym yn falch iawn o weld cyhoeddi’r dull newydd ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd, a fydd yn rhoi mwy o ffocws ar welliant, tra'n parhau i roi sicrwydd cadarn ynghylch ansawdd y ddarpariaeth a lleihau'r baich ar sefydliadau. Bydd hefyd yn cynyddu cymaroldeb â'r fethodoleg a ddefnyddir yn yr Alban, a fydd yn hwyluso rhannu arfer. Rydym yn annog sefydliadau i ymgysylltu â QAA wrth weithredu'r dull newydd.'
Dywedodd Kathryn O'Loan, Cyfarwyddwr QAA, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon: 'Rydym wrth ein bodd o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â'r holl randdeiliaid i ddatblygu'r dull Adolygiad Gwella Ansawdd. Ar ran QAA, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr hyn sydd wedi bod yn broses werth chweil. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb yn y misoedd i ddod wrth i ni roi'r dull newydd ar waith.'
Bydd QAA yn darparu cyfleoedd pellach yn yr hydref i bawb sy'n ymwneud â'r broses adolygu ddod at ei gilydd i drafod a chytuno ar ddealltwriaeth gyffredin o rai o'r elfennau allweddol yng ngweithrediad y broses adolygu newydd.