Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Effeithiau datblygiad proffesiynol

Dyddiad: Hydref 22 - 2024

Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi adnodd sylweddol sy'n olrhain Effaith Datblygiad Proffesiynol Staff ar Arferion Addysgu ynghyd â Dysgu a Pherfformiad Myfyrwyr.

Wedi'i ariannu gan Medr, sef y Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, mae'r adroddiad newydd hwn yn cynnwys casgliad o 13 o astudiaethau achos a ddatblygwyd gan gydweithwyr mewn colegau a phrifysgolion ledled y wlad.

Mae’r astudiaethau achos manwl hyn yn cynnwys gwerthusiadau o effeithiau datblygiad proffesiynol ar staff sy’n cael eu talu fesul awr a myfyrwyr ôl-raddedig, hyrwyddo ymchwil gweithredol a chymorth ar gyfer darpariaeth ddwyieithog a hyblyg. Hyn yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer ymdrin â thrawma, gwytnwch, y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) a strategaethau ar gyfer llythrennedd adborth, yn ogystal â manteision rhwydweithio ar gyfer datblygiad proffesiynol cydweithredol ar draws y sector yng Nghymru.

Mae’n cynnwys cyfraniadau gan gydweithwyr sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, Coleg Cambria, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam.

'Rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y mewnwelediadau sydd wedi’u dwyn ynghyd yn yr adroddiad hwn yn werthfawr, nid yn unig i’n cydweithwyr yng Nghymru ond hefyd ar draws y sector trydyddol ledled y DU', meddai Christine Jones, a arweiniodd y prosiect ar gyfer QAA Cymru. 'Dylai gwerthusiad o effeithiau’r gweithgareddau datblygiad proffesiynol hyn fod o fudd i fyfyrwyr a chydweithwyr – a dylai helpu i lywio gweithgareddau’r rhai sy’n datblygu strategaeth a pholisi yn y maes hwn. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr yn Medr am eu cefnogaeth, ac i'r colegau a'r prifysgolion a gymerodd ran am rannu’r mentrau cyffrous hyn.'