Dyfarniad cadarnhaol i’r London Studio Centre ar ôl adolygiad QAA
Dyddiad: | Awst 11 - 2022 |
---|
Mae adolygiad o’r London Studio Centre gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), corff ansawdd annibynnol y DU ar gyfer addysg uwch, wedi mynegi hyder bod ‘safonau academaidd yn ddibynadwy, eu bod yn bodloni gofynion y DU, ac yn rhesymol gymaradwy - y dyfarniad uchaf sydd ar gael drwy'r broses adolygu.
Mae’r London Studio Centre (LSC) yn gonservatoire arbenigol preifat a sefydlwyd ym 1978 ac sydd wedi'i lleoli yn yr artsdepot yng Ngogledd Finchley, Llundain. Ei chennad yw galluogi myfyrwyr i ddod yn berfformwyr, crewyr, cynhyrchwyr a rheolwyr addysg arloesol a medrus, sydd ar flaen y gad ym myd dawns broffesiynol a’r theatr gerddorol, trwy ddatblygu a chyflwyno rhaglenni arloesol. Ar hyn o bryd mae yna tua 350 o fyfyrwyr.
Cynhaliwyd yr adolygiad ar-lein gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd rhwng 25ain a’r 26ain Mai 2022. Mynegodd yr adolygiad hefyd ‘hyder bod ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol’.
Mae'r adolygiad yn darparu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) â barn arbenigol ynghylch parodrwydd y darparydd i ymuno â'r sector addysg uwch, neu barhau i weithredu ynddo.
Ni nododd y tîm adolygu unrhyw welliannau penodol neu feysydd i'w datblygu.