Dyfarniad cadarnhaol i Goleg Cambria yn dilyn adolygiad QAA
Dyddiad: | Awst 11 - 2023 |
---|
Mae adolygiad o Goleg Cambria gan QAA wedi mynegi hyder 'bod safonau academaidd yn ddibynadwy, yn bodloni gofynion y DU, ac o fewn rheswm, yn gymaradwy â safonau a osodir ac a gyflawnir gan ddarparwyr eraill yn y DU'.
Mae Coleg Cambria (Y Coleg) yn goleg addysg bellach mawr wedi’i leoli yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy’n gweithredu ar draws pum campws yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Sefydlwyd y Coleg yn 2013 o ganlyniad i uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl. Mae'r Coleg yn darparu addysg bellach, dysgu oedolion, prentisiaethau, dysgu yn y gweithle, rhaglenni cyswllt ag ysgolion ac addysg uwch.
Cynhaliwyd yr ymweliad adolygu rhwng 24ain a 25ain Mai 2023 a chafodd ei gynnal gan dîm o dri adolygydd..
Mynegodd y tîm adolygu hefyd hyder bod 'ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol'.
Mae'r adolygiad yn darparu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) â barn arbenigol ynghylch parodrwydd y darparydd i ymuno â'r sector addysg uwch, neu barhau i weithredu ynddo.
Nodwyd un maes i’w ddatblygu gan y tîm adolygu:
- parhau i ddatblygu ei brosesau sicrhau ansawdd mewnol fel y gall adolygiadau rheolaidd o'i arferion ar gyfer safonau ac ansawdd ysgogi gwelliannau pellach
Ni nodwyd unrhyw feysydd penodol i'w gwella gan y tîm adolygu.
Meddai Emma Hurst, Deon Addysg Uwch Coleg Cambria: 'Rydym yn falch bod QAA wedi cydnabod a mynegi hyder yn safonau'r ddarpariaeth AU a'r profiad academaidd yng Nghanolfan Prifysgol Coleg Cambria, a diolchwn i'r adolygwyr am eu harweiniad, eu cefnogaeth a'u hadborth trwy gydol y broses.
'Mae'n galonogol na chanfu QAA unrhyw feysydd sydd angen gwelliant penodol, ond bydd y coleg yn parhau i weithio'n galed i godi safonau ar gyfer ein dysgwyr, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y berthynas sydd gennym gyda'n partneriaid a rhanddeiliaid yn y sector.'