Cystadleuaeth a sgiliau graddedigion i siapio penderfyniadau am bwerau dyfarnu graddau
Dyddiad: | Mai 30 - 2018 |
---|
Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr gynnig eu graddau eu hunain bydd arweinwyr sy'n deall cystadleuaeth y farchnad a sgiliau graddedigion yn dylanwadu ar y penderfyniadau hynny erbyn hyn.
Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, sef y corff annibynnol sydd â'r cyfrifoldeb am oruchwylio ansawdd a safonau addysg uwch y Deyrnas Unedig, wedi penodi dau arbenigwr newydd i roi cyngor am bwerau dyfarnu graddau wrth i newidiadau rheoliadol ddod i rym yn Lloegr.
Mae Anne Lambert yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a Jenny Taylor yw Arweinydd y Rhaglen Sylfaen yn IBM (UK). Bydd trydydd cynghorydd arbenigol, Philip Wilson, yn ymuno â phwyllgor cynghori QAA ym mis Mehefin, gan gynrychioli diddordebau colegau annibynnol.
Meddai Sam Gyimah, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Brifysgolion: “Rwy'n croesawu'r penodiadau yma, sy'n pwysleisio mor bwysig yw hi i ystyried cystadleuaeth a chanlyniadau graddedigion wrth benderfynu pa ddarparwyr sy'n cael dyfarnu eu graddau eu hunain. Bydd y newidiadau a wnaethom i'r system addysg uwch yn agor y farchnad i ddarparwyr newydd o safon uchel – gan roi mwy o ddewisiadau i fyfyrwyr ac ehangu'r gystadleuaeth.”
Meddai Jenny Taylor o IBM: “Mae'n hynod bwysig bod penderfyniadau ar bwerau dyfarnu graddau'n cael eu hysbysu gan anghenion cyflogwyr am fod cyflogadwyedd graddedigion mor bwysig os yw economi'r DU yn mynd i dyfu yn y dyfodol.”
Yn ogystal ag arwain rhaglen IBM (UK) i raddedigion, sydd wedi ennill gwobrau, mae gan Jenny ddeng blynedd o brofiad o weithio gyda phrifysgolion a chyflogwyr i ddatblygu graddau a Phrentisiaethau Gradd perthnasol sy'n sicrhau cyfraddau cyflogadwyedd uchel ymysg graddedigion.
Meddai Anne Lambert: “Un o gryfderau sector addysg uwch y DU yw'r amrywiaeth – amrywiaeth y darparwyr a'r myfyrwyr fel ei gilydd. Mae cystadleuaeth yn gallu cyfrannu at gryfhau'r amrywiaeth yma a helpu i gynnal a gwella ansawdd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau fyth i fyfyrwyr a chydnabod ar yr un pryd nodweddion unigryw addysg uwch.”
“Rydym yn llawn gefnogi ymdrechion y Llywodraeth i'w gwneud hi'n haws a chyflymach i ddarparwyr o safon uchel fynd i mewn i addysg uwch yn Lloegr a dyfarnu eu graddau eu hunain,” meddai Matthew Cott o QAA. “Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cael gweithlu o raddedigion sydd â'r sgiliau priodol i ateb anghenion yr economi newidiol yn Lloegr a thrwy'r byd i gyd. Bydd ein cynghorwyr newydd yn herio ac yn siapio'r argymhellion a wnawn ar bwerau dyfarnu graddau yn Lloegr.”