Canmoliaethau i Brifysgol Bangor gan gorff gwarchod ansawdd addysg uwch y DU
Dyddiad: | Awst 2 - 2018 |
---|
Mae Prifysgol Bangor wedi creu profiad dysgu sy'n effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr ac sy'n cael ei arwain gan y myfyrwyr, yn ôl adroddiad newydd gan gorff annibynnol y DU ar gyfer sicrhau ansawdd addysg uwch.
Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) wedi asesu'r Brifysgol yn erbyn y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd a'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru, a daeth i'r farn ei bod yn bodloni pob un o'r gofynion o ran safonau ac ansawdd academaidd.
Derbyniodd Brifysgol Bangor ganmoliaeth gan dîm QAA o adolygwyr annibynnol yn y tri maes canlynol:
- y bartneriaeth estynedig a diwylliannol werthfawr gyda'r myfyrwyr sy'n treiddio i mewn i bob agwedd o fywyd y Brifysgol
- dwyieithrwydd sydd wedi ymwreiddio'n ddwfn ym mhob agwedd o fywyd y Brifysgol
- y ffordd y cesglir ac y defnyddir y data am berfformiad a chyfranogaeth y myfyrwyr yn systematig i hysbysu a gwella cymorth i fyfyrwyr a hybu eu cynnydd academaidd.
“Mae dull y Brifysgol o wella profiad dysgu'r myfyrwyr yn effeithiol, yn canolbwyntio ar y myfyrwyr ac yn cael ei arwain ganddynt. Mae myfyrwyr wedi'u cynrychioli ar holl bwyllgorau mawr y Brifysgol, ac mae'r staff yn croesawu ac yn amlwg yn gwerthfawrogi cyfranogaeth y myfyrwyr,” meddai'r adroddiad.
Siaradodd y staff a'r myfyrwyr mewn ffordd gadarnhaol am eu profiadau o astudio a gweithio yn y ddwy iaith, y Gymraeg a'r Saesneg. “Mae'n amlwg fod ei dwyieithrwydd yn hynod fanteisiol i'r Brifysgol ac yn cael dim ond effaith bositif ar brofiadau ei myfyrwyr a'i myfyrwyr,” yn ôl yr adroddiad.
Meddai'r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Prifysgol Bangor yw'r brifysgol gyntaf i gael Adolygiad Gwella Ansawdd, a chawsom yr adolygiad yn un manwl a thrwyadl iawn.”
“Mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu'r safonau academaidd uchel sydd i'w cael ym Mhrifysgol Bangor, ac rydym yn hynod falch wrth gwrs o ganlyniadau a chanfyddiadau'r adroddiad.”
Ychwanegodd yr Athro Hughes: “Mae'r adroddiad yn dystiolaeth glir o'r ffordd ardderchog y rheolir ansawdd academaidd ym Mhrifysgol Bangor, a hoffwn ddiolch i'n staff i gyd am eu hymdrechion rhagorol dros y blynyddoedd i gadw'r safonau mor uchel.”
Roedd y tîm arbenigol a fu'n adolygu Prifysgol Bangor yn cynnwys yr Athro John Baldock (Prifysgol Caint), Claire Blanchard (ymgynghorydd addysg uwch), yr Athro John Feather (Prifysgol Loughborough), a Rhys Jenkins, adolygwr sy'n fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Caerdydd.