Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Canfyddiadau myfyrwyr o welliant

Dyddiad: Hydref 29 - 2024

Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n manylu ar ddeilliannau astudiaeth o ganfyddiadau myfyrwyr mewn darparwyr yng Nghymru o welliant ym mhrofiad dysgu myfyrwyr.

Roedd yr astudiaeth o Ganfyddiadau Myfyrwyr o Welliant yn cynnwys cyfres o 12 grŵp ffocws gyda 40 o fyfyrwyr o dri choleg AB, saith sefydliad AU a dau ddarparydd amgen. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys dysgwyr llawn-amser, rhan-amser, myfyrwyr rhyngwladol a hŷn, yn astudio rhwng lefelau 3 a 7, yn ogystal â nifer o swyddogion sabothol mewn UMau.

Roedd y myfyrwyr y gwnaed arolwg ohonynt wedi sylwi bod gwelliannau bach ar lefel rhaglen neu ar lefel adran yn aml yn cael yr un effaith â mentrau strategol ar raddfa fwy ar draws darparydd.

Canfu’r ymchwil hefyd fod y rhai a gymerodd ran yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch yr ystod o fecanweithiau llais myfyrwyr a oedd ar gael iddynt, er bod rhai’n teimlo nad oedd cynrychiolwyr myfyrwyr bob amser yn ddigon gweladwy – tra bod cynrychiolwyr y myfyrwyr eu hunain yn cydnabod yr heriau o ran denu cyfranogiad yn y mecanweithiau hyn gan fyfyrwyr eraill.

Croesawyd mentrau adborth ar-lein fel modd o alluogi ymagwedd gynhwysol at ymgysylltu â myfyrwyr. Fodd bynnag, cyfeiriodd llawer o gyfranogwyr at ddiffyg amser fel rheswm dros beidio ag ymgymryd â chyfleoedd ar gyfer gwelliant. Nododd sawl un eu bod yn fwy awyddus i ymwneud â mecanweithiau adborth os oedd canfyddiad bod ansawdd yr addysgu yn dda, a thrwy hynny helpu i wella eu darpariaeth hyd yn oed ymhellach.

Cyfeiriwyd yn aml at y cysyniad o fyfyrwyr fel partneriaid ar lefel ysgol neu adran, ond (ar wahân i swyddogion UM) roedd cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws yn tueddu i beidio â gweld eu hunain mewn partneriaethau o'r fath ar lefelau sefydliadol. Gellid gweld amrywiadau mewn ymwneud â chyfleoedd gwelliant hefyd ar draws gwahanol feysydd a dulliau cyflwyno, a phwysleisiodd nifer o fyfyrwyr rhan-amser fod ymrwymiadau personol a gwaith yn aml yn golygu bod ganddynt lai o amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath cymaint ag y gallent fod yn dymuno.

'Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn datgelu meysydd allweddol o arfer da a ddangoswyd gan - yn ogystal â’r heriau a wynebir gan – fentrau i gynnwys myfyrwyr fel partneriaid mewn prosesau gwelliant', meddai Christine Jones, a arweiniodd yr astudiaeth ar ran QAA Cymru. 'Mae’r ymgysylltiad hwn yn hanfodol i’n gwaith yn QAA, ac mae’n flaenoriaeth allweddol i Medr, Comisiwn Cymru dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil – yn ogystal ag i ddarparwyr, llunwyr polisi, sefydliadau myfyrwyr a sector, yn ogystal â chyrff cyllido ar draws y gwledydd datganoledig a thu hwnt. Gobeithiwn yn fawr y bydd y dysgu a rennir yn yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i bawb sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd addysgu, dysgu a phrofiad myfyrwyr.'