Beirniadaeth gadarnhaol i Goleg Gwent o ganlyniad i adolygiad gan QAA
Dyddiad: | Chwefror 23 - 2024 |
---|
Mynegwyd hyder gan QAA mewn adolygiad o Goleg Gwent bod y safonau academaidd yn ddibynadwy, yn bodloni gofynion y DU, ac yn cymharu'n rhesymol â'r safonau a osodir ac a gyflawnir gan ddarparwyr eraill yn y DU.
Hefyd, mynegodd yr adolygiad hyder bod ansawdd profiad academaidd myfyrwyr Coleg Gwent yn bodloni'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol.
Ni chanfu'r tîm adolygu unrhyw feysydd penodol sydd angen eu datblygu neu eu gwella.
Cynhaliwyd yr ymweliad adolygu rhwng 22 a 23 Tachwedd 2023 a chafodd ei weithredu gan dîm o dri adolygwr annibynnol a benodwyd gan QAA.
Ar sail cylch safonol o bedair blynedd, mae'r adolygiad yn rhoi barn arbenigol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) am barodrwydd y darparwr i barhau i weithredu yn y sector addysg uwch.
Mae Coleg Gwent yn un o'r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, ac mae'n gweithredu o bum prif gampws yng Nghasnewydd, Torfaen, Brynbuga, Crosskeys a Glynebwy. Mae'r Coleg yn darparu ystod gynhwysfawr o raglenni addysg a hyfforddiant cyffredinol a galwedigaethol, o lefel mynediad hyd lefel 6, mewn amrywiaeth eang o feysydd astudio i 24,000 o fyfyrwyr.
Meddai Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent: 'Mae canlyniadau'r adolygiad gan QAA yn newydd rhagorol i'r Coleg a'n tîm addysg uwch. Rydym yn ymfalchïo yn ein darpariaeth a'r partneriaethau yr ydym wedi eu ffurfio i ddarparu graddau a chymwysterau addysg uwch eraill o'r safon orau sy'n fforddiadwy ac yn hyblyg. Mae ein staff wedi gweithio'n galed i roi'r arweiniad, cymorth ac addysg orau, o safon ddiwydiannol, i'w dysgwyr i'w galluogi i gyflawni eu hamcanion. Ni fyddem wedi gallu gobeithio am well canlyniad.'