Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn elusen annibynnol sy'n gweithio er budd y myfyrwyr a'r sector addysg uwch, ac mae'n un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes sicrhau ansawdd. Mae darparwyr addysg uwch a chyrff rheoleiddio'n ymddiried ynom ni i gynnal a gwella ansawdd a safonau. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, asiantaethau a sefydliadau drwy'r byd i gyd er budd addysg uwch y DU a'i henw da'n rhyngwladol.
Newyddion
QAA YN CYHOEDDI LLAWLYFR AR GYFER YR ADOLYGIAD O BRENTISIAETHAU GRADD YNG NGHYMRU
Dyddiad: | Hydref 16 - 2020 |
---|
Mae QAA wedi cyhoeddi’r Llawlyfr ar gyfer yr Adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2020-21.
Mae'r adolygiad a gomisiynwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn ymwneud â Phrentisiaethau Gradd a ariennir trwy CCAUC yn unig, sef y rhai sydd wedi bod ar gael fel rhan o gynllun peilot ers 2018-19, gan gwmpasu tri maes blaenoriaeth: Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Mae’r adolygiad hwn yn gweithredu ochr yn ochr â gwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun peilot ar gyfer Prentisiaethau Gradd CCAUC.
Cynlluniwyd yr adolygiad o Brentisiaethau Gradd i fod yn adolygiad datblygiadol sy'n canolbwyntio ar sut mae darparwyr addysg uwch yn cyflwyno’r rhaglen, gan gynnwys dysgu yn y gweithle. Un o nodweddion allweddol yr adolygiad yw'r defnydd o Ddatganiad Nodweddion ar gyfer Addysg Uwch mewn Prentisiaethau QAA.
Mae'r llawlyfr wedi'i ddiwygio i roi ystyriaeth i ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad. Mae’r prif themâu a godwyd gan ymatebwyr fel a ganlyn:
- Yr amserlen ar gyfer y broses adolygu
- Perthynas yr adolygiad â'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru
- Heriau wrth ymgysylltu â phrentisiaid
- Effaith COVID-19 ar gynnal yr adolygiad
Mae ymateb QAA i'r themâu hyn yn cael ei egluro mewn dogfen grynodeb sy'n amlinellu’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a'r diweddariadau i'r llawlyfr a wnaed yn eu sgil.
Meddai Alastair Delaney, Cyfarwyddwr QAA dros yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon: ‘Mae QAA yn ddiolchgar am ymgysylltiad y sector â’r ymgynghoriad hwn ar adeg mor heriol. Mae’r ymatebion hysbys a defnyddiol wedi cynorthwyo â datblygu proses adolygu o ansawdd uchel ar gyfer gwerthuso cynllun peilot Prentisiaethau Gradd CCAUC a chynorthwyo darparwyr i ddatblygu eu darpariaeth.’