Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Yn 2024-25, bydd QAA yn parhau i gefnogi ac annog y diwylliant o welliant yn y sector addysg uwch yng Nghymru trwy gynorthwyo’r sector, staff, myfyrwyr a dysgwyr i hyrwyddo a darparu profiad academaidd o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.


Yn 2024-25, bydd QAA yn cefnogi darparwyr addysg uwch yng Nghymru trwy:

 

  • Adolygiadau yng Nghymru
  • Gwelliant ac arwain sgyrsiau sector
  • Dylanwad a mewnwelediad polisi
  • Cydweithredu ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, mae gan aelodau fynediad at becyn aelodaeth QAA hollgynhwysol unigryw, sy’n cynnwys yn awtomatig gwasanaeth gwelliant International Insights gweithgareddau penodol ym mhob gwlad ddatganoledig a mynediad i’r hyn sydd ar gael i aelodau’r DU gyfan.


Mae rhagor o wybodaeth am Aelodaeth QAA 2024-25 yng Nghymru ar gael yn ein llyfryn. Isod fe welwch hefyd ein cytundeb aelodaeth, ynghyd â’n telerau ac amodau.


Aelodaeth QAA yng Nghymru 2024-25

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2024

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Aelod o QAA yng Nghymru?


Anfonwch e-bost atom i drefnu trafodaeth ynghylch sut y gall Aelodaeth QAA fod o fudd i'ch staff a'ch myfyrwyr.



Dyma beth mae ein haelodau’n ei ddweud:


Mae Aelodaeth QAA yn darparu Prifysgol Bangor â’r rhwydweithiau cydweithredol a’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ddarparu addysg drawsnewidiol i’n myfyrwyr. Rydym yn gwerthfawrogi eu hagwedd gydweithredol at godi safonau drwy drafodaeth golegol, ac rydym yn cydnabod eu rôl allweddol o ran cynnal uniondeb AU y DU yn rhyngwladol. Fel ein corff ansawdd dynodedig yng Nghymru, mae QAA yn datblygu dull ar gyfer gwelliant sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwelliannau traws-sector am flynyddoedd i ddod. 

Dr Myfanwy Davies, Pennaeth Gwella Ansawdd ac Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Bangor