Mae yna atebion isod i rai o'n cwestiynau mwyaf cyffredin.
I gofrestru'n llwyddiannus ar gyfer Ardal Adnoddau’r Aelodaeth mae angen i chi ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch sefydliad. Dyma sut rydyn ni'n sicrhau mai dim ond ein haelodau sy'n cael mynediad at ein hadnoddau defnyddiol. Gallwch fwrw golwg ar ein rhestr o Aelodau QAA i weld a ydych yn gymwys i gofrestru.
Mae rhai o'n digwyddiadau ar gyfer aelodau yn unig, ac mae eraill wedi'u cyfyngu i fathau penodol o Aelodaeth QAA. I gofrestru ar gyfer digwyddiad QAA, defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost sefydliadol; mae’n bosib y byddwn yn canslo eich cofrestriad os na allwn adnabod eich sefydliad.
Weithiau rydym yn capio niferoedd ar gyfer digwyddiadau neu'n cyfyngu ar y lleoedd sydd ar gael i bob sefydliad sy’n aelod, er mwyn sicrhau y gallwn gynnal grwpiau trafod defnyddiol a darparu lle ar gyfer rhwydweithio.
Os ydych wedi symud sefydliad ac mae eich sefydliad newydd hefyd yn Aelod o QAA, cysylltwch â ni trwy engage@qaa.ac.uk fel y gallwn sicrhau eich bod yn cadw mynediad at ddigwyddiadau ac adnoddau Aelodaeth QAA.
Mae gennym lawer o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn ystod blwyddyn Aelodaeth QAA. Yn ogystal â'n digwyddiadau a rhwydweithiau sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr, rydym yn cynnig cyfleoedd amrywiol i chi fynegi eich diddordeb yn ein grwpiau cynghori a’n Prosiectau Gwelliant Cydweithredol. Rydym hefyd yn rhannu cylchlythyr aelodau bob pythefnos i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yn QAA - cofrestrwch i dderbyn eich copi!